Yn yr adran hon gallwch Yn yr adran hon gallwch ddarllen Cynllun Rheoli'r Awdurdod sy'n disgrifio strategaeth gyffredinol y Parc ynghyd ag Asesiad o Gymeriad y Tirlun ac Asesiad o Gymeriad y Morlun, sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am sensitifrwydd tirlun pob un o ardaloedd y Parc Cenedlaethol. Rhoddir hefyd wybodaeth am dirlunio, gan gynnwys coed a gwrychoedd.
Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd statudol i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc.
Mae rheoli cymeriad tirlun unigryw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn effeithiol, yn unol â’r ddyletswydd statudol hon, felly’n eithriadol bwysig i bob agwedd ar waith yr Awdurdod.
Cliciwch ar y dolenni ar y chwith am fwy o wybodaeth. Am mwy o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA/SPG) sy’n berthnasol i warchod a gwella tirwedd y Parc Cenedlaethol, ewch i’r adran CCA.
Tirlunio
Mae coed a gwrychoedd yn rhan bwysig o dirlun y Parc Cenedlaethol a rhoddir gwybodaeth a chanllawiau ar goed, gan gynnwys ar orchmynion diogelu coed, ar y dudalen Rheoli Coed a Gwrychoedd.