Pathewod a Chynllunio

Mae hawdd adnabod y pathew o'i liw aur llachar a'i gynffon flewog drwchus. Creadur y nos yw'r pathew sy'n aml yn byw mewn coetir a gwrychoedd, yn enwedig mewn coetir cyll lle mae'r coed wedi eu bondocio. Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnig diet amrywiol drwy'r flwyddyn gan adael i'r pathew symud drwy'r coed oherwydd nid yw'n ymddangos i fod yn hoff o fynd dros dir agored.

Mae’r pathew’n brin yn Sir Benfro a dan fygythiad o ganlyniad i golli a darnio cynefin a rheoli coetir yn wael. Felly gwarchodir y pathew o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 ac o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (wedi’i diwygio).

Ceisiadau Cynllunio ac Arolygon

Wrth benderfynu cais cynllunio, bydd presenoldeb pathewod fel Rhywogaeth a Warchodir (PS) yn ystyriaeth berthnasol os yw’r datblygiad yn debygol o achosi aflonyddwch neu niwed i’r rhywogaeth. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried effaith bosib y datblygiad ar y rhywogaeth ar sail gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi eu cais.

Os oes tystiolaeth fod pathewod ar neu gerllaw safle’r datblygiad, bydd angen arolwg pathewod i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio a gyflwynir. Gall yr arolwg gadarnhau a oes pathewod yn bresennol ac argymell mesurau lliniaru i warchod y pathewod ac i leihau neu ddileu effaith y datblygiad. Dylid cyflwyno’r adroddiad hwn, ynghyd â chynlluniau’n dangos y mesurau lliniaru, ar yr un pryd ag y cyflwynir y cais cynllunio.

A hazel or common dormouse on a branch

Trwyddedu

Os oes gennych ddatblygiad neu weithgaredd mewn golwg fydd yn effeithio ar bathewod neu unrhyw Rywogaeth arall a Warchodir Gan Ewrop, mae’n debyg y bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, rhaid ei gael cyn i chi gael y drwydded. Unwaith y cewch ganiatâd, cyfrifoldeb yr ymgeisydd wedyn yw gwneud cais am drwydded – rhoddir mwy o fanylion drwy chwilio o dan ‘Trwydded ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop’ ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cysylltwch â'n Hecolegydd

Dylid anfon unrhyw ymholiad am rywogaethau a safleoedd a warchodir at yr Ecolegydd Cynllunio drwy ffonio 01646 624800 neu ebostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk.