Caeodd y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo 4.430pm ddydd Gwener 1 Mehefin 2018.
Mae’r Awdurdod wedi paratoi Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy’n rhoi manylion pellach am y broses o Ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir, yn crynhoi’r prif faterion a godwyd gan yr ymgynghoriad, ac yn rhoi crynodebau o’r sylwadau ynghyd ag ymateb yr Awdurdod.
Mae’r Adroddiad yn rhoi crynodeb o’r sylwadau a dderbyniwyd ar y safleoedd ar y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol ac ar y safleoedd newydd neu ddiwygiedig a dderbyniwyd. Hefyd mae ymateb yr Awdurdod wedi’i nodi.
Cliciwch y ddolen i weld asesiad llawn wedi’i ddiweddaru o’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol.
Cliciwch y ddolen i weld asesiad llawn yr Awdurdod o’r Safleoedd Newydd neu’r Safleoedd Diwygiedig.
Er bod yr Awdurdod wedi cofnodi ei farn ei hun ar y safleoedd amgen neu ddiwygiedig, os oes gan randdeiliaid farn ar y safleoedd hyn, rhaid cyflwyno’r farn honno fel rhan o’r ymgynghoriad Adneuo. Mae posibilrwydd i hyn newid drwy’r Archwiliad, a bydd angen i randdeiliaid fynegi eu barn ar y safleoedd amgen yn awr drwy ddefnyddio’r ffurflen sylwadau a ddarperir.
SAFLEOEDD NEWYDD A DIWYGIEDIG
Mae dyraniadau tir wedi’u nodi yn y Cynllun Adnau lle darperir manylion o drefniadau’r ymgynghoriad.
Fel rhan o ymgynghoriad y Strategaeth a Ffefrir rhoddwyd cyfle i gyflwyno safleoedd newydd neu ddiwygio safleoedd a gyflwynwyd eisoes.
Cynhaliwyd asesiad o’r safleoedd oedd yn cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd, â drafft o’r Strategaeth a Ffefrir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Er i’r Awdurdod gofnodi ei safbwyntiau ei hun ar y safleoedd amgen neu’r safleoedd diwygiedig, os oes gan randdeiliaid safbwynt ar y safleoedd hyn mae’n rhaid iddynt eu cyflwyno fel rhan o ymgynghoriad yr Adnau. Mae posib i hyn newid drwy’r Archwiliad, ac mae angen i randdeiliaid fynegi eu safbwyntiau am y safleoedd amgen nawr.
Cliciwch ar y ddolen i weld canllaw’r Awdurdod ar gyflwyno safleoedd ar y cam Strategaeth a Ffefrir
Mae’r holl safleoedd a gyflwynwyd wedi eu cynnwys ar restr Safleoedd Newydd a Safleoedd Diwygiedig (gweler tabl isod), syn caniatáu unrhyw un i weld y safleoedd sydd wedi eu cyflwyno.
Mae’r Tabl isod yn grwpio’r safleoedd yn ôl ardal Cyngor Cymuned, ac mae’n cynnwys asesiad (Cam Cynllun Adnau) a chasgliadau ar gyfer pob safle gan yr Awdurdod a map o bob safle.
Cynllun Adnau Safleoedd Newydd neu Safleoedd Diwygiedig
Y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo yn nodi:
- Ble ydym ni nawr: Pa faterion allweddol sydd angen mynd i’r afael â hwy?
- Ble ydym ni eisiau bod: Gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y dyfodol
- Sut mae cyrraedd yno: Strategaeth defnydd tir ar gyfer y Parc yn nodi graddfa’r datblygiad cyffredinol a gynigir, ble fydd y datblygiad yn cael ei leoli, a pha bolisïau strategol eraill sydd eu hangen i fod o gymorth i weithredu’r strategaeth.
- Map Cynigion sy’n dangos pob un o bolisïau a chynigion y Cynllun gydag elfen ofodol.
- Defnyddir y Map Cyfyngiadau i ddangos y deliniadau sy’n cael eu pennu gan fecanweithiau eraill. Nid yw’r Map Cyfyngiadau yn rhan o’r Cynllun Adneuo.
Asesiadau a thystiolaeth ategol
Caiff y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo ei ategu gan lawer o astudiaethau technegol, asesiadau, tystiolaeth a gwybodaeth ategol sy’n cynnwys Arfarniad o Gynaliadwyedd sy’n ymgorffori Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Asesiad Effaith Cydraddoldeb (dolen gyswllt i’r dudalen we Arfarniadau).
Hefyd gellir cael golwg ar yr asesiadau a’r dystiolaeth ategol ar y Papurau Cefndir.
Sut alla i gymryd rhan?
Caeodd y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo 4.30pm ddydd Gwener 1 Mehefin 2018.
Dylid anfon sylwadau yn ysgrifenedig at Bennaeth Cyfarwyddyd y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu gellir eu hanfon at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk. Mae’r Arolygiaeth wedi darparu ffurflen sylwadau safonol i’w defnyddio.
Os oes angen y dogfennau hyn arnoch mewn fformat arall, h.y. testun hawdd ei ddarllen, testun mawr, sain, a fyddech gystal â chysylltu â info@pembrokeshirecoast.org.uk / 01646 624800.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd pob un o’r sylwadau a gyflwynir yn derbyn cydnabyddiaeth. Efallai y bydd angen i’r Awdurdod gysylltu â chi i drafod eich sylwadau ymhellach. Noder y bydd yr Awdurdod yn ystyried yr ymatebion a dderbynnir, a bydd yr Awdurdod yn barnu sut y dylid ymdrin â’r sylwadau drwy Archwiliad. Bydd yr ymatebwyr yn cael gwybod am y gwrandawiad archwilio a gynhelir.