Mae Cyfeillion Oriel y Parc yn cynnig eiriolaeth, cymorth gwirfoddol ac yn codi arian ar gyfer Oriel y Parc.
Os oes diddordeb gyda chi i ymuno a’r cyfeillion, cysylltwch ag Oriel y Parc ar 01437 720392 neu e-bostiwch ni.
Mae Sgyrsiau Cyfeillion Oriel y Parc yn dechrau am 7pm yn yr Ystafell Ddarganfod.
Ewch i wefan Cyfeillion Oriel y Parc i weld y rhestr ddiweddaraf ar gyfer Sgyrsiau.
Cynigir mynediad am ddim i aelodau ond codir tal o £3 i bawb arall. Dewch yn aelod o Gyfeillion Oriel y Parc am £10 a derbyniwch fynediad am ddim i holl sgyrsiau yn y dyfodol.
Mae aelodaeth hefyd yn eich galluogi i gael gostyngiad o 15% yn siop anrhegion Oriel y Parc a 10% yn y caffi.