Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn treialu cynllun rhentu e-feiciau yn Nhyddewi. Mae’n bosibl llogi e-feiciau yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a’u defnyddio i grwydro o amgylch yr ardal gyda chymorth y motor trydan i ddringo bryniau serth yr ardal ac i deithio ymhellach ar ddwy olwyn.

Beth yw e-feic?

Beic â modur trydan a batri yw e-feic, sy’n eich helpu wrth i chi bedlo. Mae hyn yn golygu y gallwch chi feicio i fyny rhiwiau neu feicio ymhellach cyn blino.

 

Ein e-feiciau

Mae ein e-feiciau Riese & Müller yn gyfforddus ac yn ffasiynol. Mae ganddyn nhw fframiau camu-drwodd, sy’n golygu ei bod yn hawdd mynd ar gefn y beic a dod oddi arno. Mae gan bob beic fasged ddefnyddiol ar y tu blaen, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gario eich eiddo.

 

Manteision Iechyd

Gall beicio leihau’r risg o salwch difrifol; eich helpu i gynnal pwysau iach, a gwella’ch llesiant meddyliol.

 

Manteision Amgylcheddol

Helpwch i leihau tagfeydd ac allyriadau carbon ar Benrhyn Tyddewi drwy ddefnyddio un o’n e-feiciau i grwydro o amgylch yr ardal.

 

Costau Llogi

Mae ein e-feiciau ar gael i’w rhentu am y dydd – £20 am bob beic am y dydd.

 

Cyfarwyddiadau Archebu

Gallwch archebu’r e-feiciau drwy ddefnyddio ap rhad ac am ddim ar eich ffôn symudol, sef “MOQO”. Gallwch lwytho’r ap i lawr am ddim o App Store Apple (yn agor mewn ffenestr newydd) neu Google Play Store (yn agor mewn ffenestr newydd).

Bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch manylion personol, gan gynnwys manylion talu, ac yna darllen a derbyn y telerau ac amodau.

 

Sut mae defnyddio ap MOQO

Ar ôl i chi gwblhau’r camau uchod, fe fyddwch chi’n barod i archebu un o’r e-feiciau. Wrth agor ap MOQO, bydd y beiciau sydd ar gael i’w gweld ar waelod y sgrin, neu gallwch chwilio am feic ac archebu un ar frig y sgrin.

Ar ôl gorffen archebu, byddwch chi’n barod i gasglu’r beic.

I ddatgloi’r beic, mae angen i chi fod yn agos ato. Cofiwch ddatgloi’r beic gan ddefnyddio’r ap cyn symud y beic – os yw’r beic yn dal wedi’i gloi ar yr ap, bydd larwm yn canu. Ar ôl ei ddatgloi, byddwch chi’n gallu defnyddio’r e-feic.

Gallwch gloi’r beic dros dro drwy’r ap, ond peidiwch â chlicio “Return e-bike” nes eich bod yn ôl yn Oriel y Parc ac yn barod i ddychwelyd y beic.

 

Dychwelyd yr e-feic

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd yr e-feic i Oriel y Parc ar yr amser sydd wedi’i nodi yn eich archeb. Cofiwch roi digon o amser i chi’ch hun feicio’n ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr.

Mae’r cynllun hwn yn cael ei dreialu am gyfnod ar hyn o bryd, felly byddem yn falch o gael eich adborth.

Cofiwch rannu eich anturiaethau e-feic gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol!