Hysbysiad Preifatrwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Cadw eich Gwybodaeth yn Ddiogel [Diweddarwyd Ddiwethaf: mis Hydref 2023]

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i rentu a defnyddio E-Feiciau

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut y bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofalu am eich gwybodaeth breifat wrth rentu a defnyddio E-Feiciau.

Mae data personol a ddefnyddir i’r dibenion hyn yn cynnwys:

  • Yr wybodaeth amdanoch eich hun rydych yn ei rhoi yn yr App Ffôn Clyfar ‘MOQO’ i archebu E-feiciau.

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut yr ydym yn gwneud hyn ac mae’n rhoi gwybod i chi am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu. Mi all yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch ein gwefan i wneud yn siŵr eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

 

Pwy ydym ni

Crëwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel awdurdod lleol diben arbennig annibynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf).

Cewch ragor o wybodaeth amdanom yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, mi allwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

SDD@arfordirpenfro.org.uk

01646 624800

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn:

Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi’i gofrestru fel Rheolydd Data â’r ICO (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth). Rhif cofrestru: Z6910336.

 

Sut mae’r gyfraith yn eich diogelu

Mae eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu gan y gyfraith ac mae’r adran hon yn egluro sut mae hynny’n gweithio.

Rydym yn disgrifio sut yr ydym yn cydymffurfio â mesurau atebolrwydd yn y gyfraith a sut yr ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein Polisi Diogelu Data.

 

Eich hawliau

O dan reoliadau diogelu data mae gennych yr hawliau canlynol:

  1. Yr hawl i gael eich hysbysu
  2. Hawl mynediad
  3. Yr hawl i gywiro
  4. Yr hawl i ddileu
  5. Yr hawl i gyfyngu prosesu
  6. Yr hawl i gludadwyedd data
  7. Yr hawl i wrthwynebu
  8. Hawliau o ran gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio.

Mae sail gyfreithlon prosesu’n effeithio ar ba hawliau sydd ar gael i’r unigolyn.

 

Y data rydym yn eu casglu

Mae’r data personol rydym yn eu casglu amdanoch i ddibenion rhentu a defnyddio’r E-Feiciau’n cynnwys:

  • eich enw,
  • eich cyfeiriad,
  • rhif ffôn,
  • dyddiad geni,
  • cyfeiriad e-bost,
  • data taliadau.

Rydym yn casglu’r wybodaeth bersonol hon amdanoch pan fyddwch yn ei bwydo i’r App Ffôn Clyfar MOQO i Archebu E-feiciau.

 

Rhesymau priodol (sail gyfreithlon) dros ddefnyddio eich data personol

Bydd yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni’n cael ei phrosesu’n unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Dywed y gyfraith Diogelu Data y caniateir inni ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn unig os oes gennym reswm priodol (sail gyfreithlon) i wneud hynny.

Y sail gyfreithlon y dibynnir arni ar gyfer rhentu a defnyddio’r E-Feiciau yw:

  • Cyflawni contract sydd gennym â chi, neu
  • Pan fydd dyletswydd gyfreithlon arnom, neu
  • Buddiant Dilys, neu
  • Cydsyniad.

Ni fydd categorïau arbennig o ddata’n cael eu casglu i ddiben rhentu a defnyddio’r E-Feiciau.

 

Yr wybodaeth rydym yn ei chasglu, y sail gyfreithlon a’r hyn y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.

Yr hyn rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer Ein rhesymau (sail gyfreithlon) Ein tasgau cyhoeddus neu fuddiannau dilys
Cadw mewn cysylltiad a chael adborth am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu Buddiant dilys Rheoli perthnasoedd presennol a gwella gwasanaethau
Cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o’r contract rhentu Cyflawni contractau Cyflawni dyletswyddau’r Awdurdod
Prosesu Taliadau – gan gynnwys cysylltu â chi yn ei gylch os bydd angen Contract
Ein rhwymedigaethau cyfreithlon
Prosesu taliadau’n effeithiol
Prosesu ymholiadau, sylwadau, adborth, a chwynion a gyflwynir gennych Rhwymedigaethau cyfreithlon
Buddiant dilys
Cyflawni safonau gwasanaeth Parc Cenedlaethol yr Awdurdod

 

Ffilm CCTV

Rydym yn defnyddio Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) mewn safleoedd amrywiol o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae ein CCTV yn cofnodi delweddau gweledol byw yn unig (nid oes sain yn cael ei gofnodi gan ein CCTV) ac mae unrhyw recordiadau’n cael eu cadw am gyfnod o 30 diwrnod. Mi ellir ymestyn hyn mewn amgylchiadau lle bydd angen ffilm CCTV i helpu ymchwiliad i ddigwyddiad neu os oes ei angen fel tystiolaeth.

Noder fod arwyddion clir wedi’u gosod mewn mannau o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n cael eu monitro gan CCTV.

Mae lleoliadau camerâu’n cael eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau eu bod yn gymesur i’w diben. Os na ellir cyfiawnhau’r diben hwnnw mwyach yn erbyn ymyrraeth â phreifatrwydd neu eiddo personol, byddant yn cael eu symud oddi yno neu eu diffodd.

Bydd yr Awdurdod yn monitro ac yn ymateb i unrhyw bryderon neu gwynion a gaiff yn ymwneud â lleoli camerâu a’u maes gwelediad. Os na ellir cyfiawnhau’r lleoliad a’r diben hwnnw mwyach yn erbyn ymyrraeth â phreifatrwydd neu eiddo personol, byddant yn cael eu symud oddi yno neu eu diffodd.

Yr hyn rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar ei gyfer Ein rhesymau Ein tasgau cyhoeddus neu fuddiannau dilys
I warchod diogelwch personol staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a’r cyhoedd.

Atal trais neu ymddygiad ymosodol tuag at staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Gwarchod adeiladau a chyfarpar yr Awdurdod, ac eiddo personol staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a’r cyhoedd.

Atal a chanfod troseddu yn ei safleoedd a chyfleusterau manwerthu, a chynorthwyo i adnabod a dal troseddwyr.

Dangos tystiolaeth o ddifrod neu golled i gwmni yswiriant yr Awdurdod.

Buddiant Dilys

Os bydd data troseddau’n cael eu cofnodi yn yr achosion hyn byddai cofnodi’r ddelwedd yn gysylltiedig â buddiant cyhoeddus sylweddol a phrawf 10. Atal a chanfod gweithredoedd anghyfreithlon ac 11. Gwarchod y Cyhoedd.

Buddiant Dilys o ran gwarchod diogelwch personol staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a’r cyhoedd.

Atal trais neu ymddygiad ymosodol tuag at staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Gwarchod adeiladau a chyfarpar yr Awdurdod, ac eiddo personol staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a’r cyhoedd.

Atal a chanfod troseddu yn ei safleoedd a chyfleusterau manwerthu, a chynorthwyo i adnabod a dal troseddwyr.

Dangos tystiolaeth o ddifrod neu golled i gwmni yswiriant yr Awdurdod.

 

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn App Archebu E-Feiciau MOQO tra bydd eich cyfrif yn weithredol yn unig neu gyhyd ag y bydd hynny’n angenrheidiol i unrhyw faterion perthnasol yn ymwneud â’r rhentu i gael eu datrys yn llawn neu i gyflawni unrhyw rwymedigaethau cyfreithlon.

 

 phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

Mi allwn rannu eich gwybodaeth bersonol yn fewnol ag adrannau perthnasol o fewn yr Awdurdod i gyflawni ein rhwymedigaethau contractiol a chyfreithlon i ymateb i unrhyw ymholiadau a all fod gennych neu pan fydd angen cyfathrebu â chi ynglŷn â’n gwasanaeth rhentu E-Feiciau.

Pan fyddwch yn mewnbynnu eich data i App Archebu E-feiciau MOQO bydd eich data’n cael eu rhannu â Digital Mobility Solutions sydd wedi’u lleoli yn yr Almaen yn ogystal ag unrhyw drydydd parti sy’n angenrheidiol i gyflawni ein rhwymedigaethau contractiol a chyfreithlon ac i sicrhau eich bod yn gallu archebu E-feic yn hwylus.

Pan fyddwch yn rhannu eich data rydym yn sicrhau ein bod yn cynnal diwydrwydd dyladwy a bod Cytundebu Prosesu neu Rannu Data ar waith. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon i ddibenion marchnata.

 

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniadau awtomatig

Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio eich data i wneud penderfyniadau awtomatig. Os bydd hyn yn newid yn y dyfodol byddwn yn diweddaru’r adran hon o’r hysbysiad.

 

Os byddwch yn dewis peidio rhoi gwybodaeth bersonol

Efallai y bydd angen inni gasglu gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â’r gyfraith, neu o dan amodau contract sydd gennym â chi.

Os byddwch yn dewis peidio rhoi’r wybodaeth bersonol hon, mi all olygu oedi neu gall ein rhwystro rhag cyflawni ein rhwymedigaethau. Mi all olygu hefyd na allwn gyflawni tasgau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth rydych am ei ddefnyddio.

Bydd unrhyw ddata a gesglir sy’n ddewisol yn cael ei egluro wrthych ar adeg casglu’r data.

 

Cydsyniad a thynnu cydsyniad yn ôl

Pan fydd angen cydsyniad unigolyn i brosesu gwybodaeth bersonol byddwn yn eich hysbysu o hynny. Ni fydd cydsyniad fel arfer yn rhag-amod i gofrestru â gwasanaeth.

Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Cysylltwch â ni yn gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk neu’r tîm yr ydych wedi rhoi cydsyniad iddo o fewn yr Awdurdod os ydych am wneud hynny.

Os byddwch yn tynnu eich cydsyniad yn ôl, mae’n bosibl na allwn ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau penodol i chi. Os mai dyna’r achos, mi fyddwn yn rhoi gwybod i chi.

 

Sut i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol

Mi allwch weld yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddol a Democrataidd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch ag: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk, Ffôn: 01646 624800.

 

Rhoi gwybod inni os yw eich gwybodaeth bersonol yn anghywir

Mae’r holl ddata a brosesir amdanoch yn App Archebu E-feiciau MOQO yn ddata rydych chi wedi’u rhoi inni. Caniateir i chi wneud unrhyw newidiadau lle bynnag bo’u hangen i sicrhau bod yr wybodaeth a gedwir yn gywir a chyfoes.

 

Beth os byddwch am i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Mae gennych hawl i wrthwynebu i’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, neu i ofyn inni ddileu, cael gwared, neu roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol os nad oes angen inni ei chadw.

Efallai y bydd rhesymau cyfreithiol neu swyddogol eraill pam y bydd angen inni gadw neu ddefnyddio eich data. Ond dywedwch wrthym os ydych yn credu na ddylem fod yn eu defnyddio.

Efallai y gallwn weithiau gyfyngu ar y defnydd o’ch data. Mae hyn yn golygu y gall gael eu defnyddio i ddibenion penodol yn unig, fel hawliadau cyfreithiol neu i weithredu hawliau cyfreithiol. Yn y sefyllfa hon, ni fyddwn yn defnyddio nac yn rhannu eich gwybodaeth mewn ffyrdd eraill tra bydd wedi’i chyfyngu.

Mi allwch ofyn inni gyfyngu’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol os:

  • Yw wedi cael ei defnyddio’n anghyfreithlon ond nad ydych eisiau inni ei dileu
  • Nad yw’n berthnasol mwyach, ond eich bod am eisiau i ni ei chadw i’w defnyddio mewn hawliadau cyfreithiol
  • Rydych eisoes wedi gofyn inni roi’r gorau i ddefnyddio eich data ond eich bod yn aros inni ddweud wrthych fod caniatâd inni barhau i’w defnyddio.

Os oes gennych wrthwynebiad i sut yr ydym yn defnyddio eich data, neu os hoffech ofyn inni eu dileu neu gyfyngu sut yr ydym yn eu defnyddio, cysylltwch â ni yn SDD@arfordirpenfro.org.uk.

 

Cwcis

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o wasanaethau ar-lein, mae ein gwefan yn defnyddio cwcis parti cyntaf a thrydydd parti i nifer o ddibenion. Mae’r cwcis parti cyntaf yn angenrheidiol fel arfer er mwyn i’r wefan weithio’n gywir, ac nid ydynt yn casglu unrhyw ddata personol a all ddangos pwy ydych chi.

Mae’r cwcis trydydd parti a ddefnyddir ar ein gwefan yn cael eu defnyddio’n bennaf i ddeall sut mae’r wefan yn perfformio, sut yr ydych yn rhyngweithio â’n gwefan, i gadw ein gwasanaethau’n ddiogel, darparu hysbysebion sy’n berthnasol i chi, ac yn gyffredinol i roi profiad gwell i chi fel defnyddiwr wrth ei defnyddio, ac i helpu i gyflymu unrhyw ryngweithio rhyngoch chi a’n gwefan yn y dyfodol.

Mi allwch reoli eich hoffterau cwcis drwy glicio ar y botwm “Gosodiadau cwcis” a galluogi neu analluogi’r categorïau cwcis ar y ddewislen yn ôl eich dewis. Neu, mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu rhyw gymaint o reolaeth dros y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau eich porwr.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Cwcis.

 

Anfon data y tu allan i’r DU

Ni fyddwn yn anfon eich data y tu allan i’r DU heblaw i:

  • Cydymffurfio â dyletswydd gyfreithlon
  • Neu, pan fydd prosesyddion data rydym yn eu defnyddio y tu allan i’r DU, a bod ganddynt fesurau diogelu perthnasol ar waith.

Os byddwn ni, neu brosesydd rydym yn ei ddefnyddio, yn trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i’r DU, byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod wedi’u gwarchod yn yr un ffordd ag y byddai pe bai’n cael ei defnyddio yn y DU. Byddwn yn defnyddio un o’r mesurau hyn:

  • Sicrhau bod y derbynnydd wedi’i leoli yn yr EEA (Ardal Economaidd Ewropeaidd), neu drydedd gwlad neu diriogaeth neu os yw’n sefydliad rhyngwladol, sy’n dod o fewn ‘rheoliadau digonolrwydd’ y DU.
  • Wedi llunio contract â’r derbynnydd sy’n golygu bod yn rhaid iddynt ei gwarchod hyd yr un safonau â’r DU.

 

Sut i gwyno

Gadewch inni wybod os ydych yn anhapus â sut rydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Cysylltwch â’n swyddog diogelu data yn SDD@arfordirpenfro.org.uk neu 01646 624800.

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae eu gwefan yn disgrifio sut i fynegi pryder. Rhif eu llinell gymorth yw 0303 123 1113.