Rhododendron ponticum

Planhigyn bythwyrdd yw’r rhododendron ponticum. Pobl oes Fictoria ddaeth â’r planhigyn i Brydain ddiwedd y ddeunawfed ganrif fel planhigyn addurnol, ac roedd yn boblogaidd iawn ar ystadau gwledig, gan ei fod yn edrych yn dda a hefyd yn rhoi cysgod i adar hela. Mae’n frodorol yng ngwledydd Asia a Tsiena, ac mae hefyd yn tyfu yn Sbaen, Portiwgal a Thwrci.

Mae rhododendron ponticum yn cael ei ddosbarthu fel math o chwyn estron goresgynnol, ac mae’n gyfrifol am ddinistrio llawer o gynefinoedd brorodol. #

Ar bridd asid, gan gynnwys rhostiroedd, coetiroedd, sgrïau, llechweddau creigiog, gerddi segur, ac ochrau nentydd (yn y gorllewin yn bennaf), bydd yn drech na’r rhan fwyaf o blanhigion brodorol. Mae’n gallu tyfu yn uchel iawn, ac ychydig iawn o olau sy’n gallu treiddio drwy ei ganopi trwchus o ddail.

Wrth ladd planhigion brodorol, mae anifeiliaid brodorol sy’n gysylltiedig â’r planhigion hynny hefyd yn diflannu. Gallai hefyd gael goblygiadau ehangach ar gyfer iechyd coed gan ei fod yn llu i phytophthora.

Mae gan rhododendron ponticum ddail bythwyrdd, ar ffurf gwaywffon, tua 7.5” o hyd, ac mae ganddyn nhw ymylon llyfn. Maen nhw’n wyrdd tywyll, gyda sglein ar yr ochr uchaf a dim sglein odanyn nhw. Mae tuswau mawr o flodau ar siâp clychau yn tyfu arnyn nhw, sy’n amrywio o ran lliw rhwng fioled a phorffor. Mae’r planhigyn yn ei flodau o’r gwanwyn tan ddechrau’r haf.

Sut mae’n ymledu?

Mae rhododendron ponticum yn ymledu’n llystyfol a thrwy wasgaru hadau. Mae planhigion sydd wedi ymsefydlu yn gallu ymledu wrth i’r canghennau ymestyn yn llorweddol. Os bydd y rhain yn cyffwrdd â’r ddaear, byddan nhw’n gwreiddio, gan alluogi i’r planhigyn ymledu’n barhaus.

Gydag amser, gall un planhigyn ymledu dros ardal eang, gan dyfu canghennau trwchus sy’n gwau drwy’i gilydd, ac sy’n anodd torri ffordd drwyddyn nhw.

Mae’r strategaeth hon yn golygu bod y planhigyn yn gallu ymledu i fannau a fyddai fel arall yn anaddas ee gall y canopi dyfu dros dir gwlyb, er bod y prif goesyn a’r gwreiddiau yn dal ar dir sych.

Rhodedendron Ponticum

Gwasgariad

Mae hadau rhododendron yn fach iawn, ac yn cael eu gwasgaru gan y gwynt. Gall pob blodyn gynhyrchu rhwng 3000 a 7000 o hadau, felly gall llwyn mawr gynhyrchu sawl miliwn o hadau bob blwyddyn.

O ystyried yr holl hadau y mae’n eu cynhyrchu, does dim ond angen cyfran fach ohonyn nhw i egino’n llwyddiannus. Mewn mannau lle tarfwyd ar y pridd y mae’r eginblanhigion yn llwyddo orau.

Removing Rhododendron ponticum at Trecwn, Pembrokeshire, Wales, UK

Dulliau o’i reoli

Os na chedwir y llwyni dan reolaeth, byddan nhw’n ymledu i fannau eraill gerllaw, gan ladd y rhan fwyaf o’r rhywogaethau brodorol yn gyflym iawn. I gael gwared â’r planhigyn, rhaid torri, llifio neu docio’r holl dyfiant uwchben y ddaear.

Os yw hynny’n bosibl, gellir torri’r pren yn sglodion, a’i ddefnyddio fel tomwellt, a gellir troi’r deiliach yn gompost i’w ddefnyddio yn nes ymlaen.

Gellir tynnu’r boncyffion oddi yno, neu eu trin â chwistrelliad o chwynladdwr. Os dewisir eu trin â chwynladdwr, mae angen cynllun rheoli dros dair neu bum mlynedd i drin unrhyw aildyfiant.

Os yw rhododendron ponticum neu rododendron maximum yn eich gardd neu ar eich tir, ystyriwch iechyd ehangach coetiroedd yn eich ardal chi.