Arfordira

Dyma weithgaredd grŵp cyffrous sydd wedi datblygu o drawsteithio ar lefel y môr and math o ddringo sy’n hwyl ac sydd wedi bod yn boblogaidd yn Sir Benfro ers y 1960au.

Fel arfer, mae arfordira’n golygu cyfuniad o ddringo creigiau, nofio, sgramblo a neidio, a’r cyfan ychydig fetrau uwchben lefel y môr neu oddi tano. Mae’n lot o sbri, yn enwedig ar ddiwrnod heulog gydag awyr las ac ambell don, ond mae angen ei gymryd o ddifrif hefyd.

Mae newid sydyn yn y tywydd, y llanw neu ymchwydd y tonnau yn gallu troi unrhyw daith yn waith difrifol, ble mae unrhyw anafiadau yn gallu ei gwneud yn anodd iawn dianc o waelod y clogwyni.

Mae offer priodol ac, yn fwy pwysig, gwybodaeth fanwl o’r amgylchedd, cymorth cyntaf ac amodau’r môr, yn hanfodol ar gyfer taith lwyddiannus.

Mae Arfordir Penfro’n lleoliad hyfryd ar gyfer y gweithgaredd hwn gydag amrywiaeth helaeth o leoliadau, o glogwyni fertigol sy’n codi o’r môr i gildraethau ac ogofau cysgodol.

Y creigiau, y bywyd gwyllt a’r amgylchedd heb ei ddifetha yw rhai o brif atyniadau’r gweithgaredd, ac mae angen eu parchu er mwyn caniatau defnydd cynaliadwy o’r lleoliadau arbennig iawn a ddefnyddir ar hyn o bryd.

Rydyn ni wedi penderfynu peidio â thynnu sylw at leoliadau arfordira oherwydd mae’n weithgaredd i’w daclo gydag arweinwyr grŵp lleol sydd wedi eu hyfforddi.

Mae’r prif leoliadau arfordira ar benrhyn Tyddewi ac arfordir y de. Dilynwch y ddolen am fwy gwybodaeth oddi wrth wefan Siarter Awyr Agored Sir Benfro.