Os oes rhywogaeth a warchodir ar safle, pur anaml y bydd hyn yn atal datblygu ond bydd angen i'r ymgeisydd gymryd mesurau i warchod y rhywogaeth a chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r trwyddedau perthnasol.
dylid ystyried materion ecolegol yn gynnar i sicrhau nad ydynt yn achosi oedi diangen
Mae’n syndod faint o rywogaethau unigryw sydd i’w cael yn Sir Benfro. Dyma rai rhywogaethau yr effeithir fel arfer arnynt gan geisiadau cynllunio yn Sir Benfro:
Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop (EPS) |
Rhywogaeth a Warchodir gan y DU |
Ystlumod
Dyfrgwn Y pathew
|
Adar gwyllt o bob math, eu nythod a’u hwyau Y dylluan wen (gwarchodaeth ychwanegol rhag aflonyddu arni) Mochyn daear Ymlusgiaid
|
Rhywogaethau a Warchodir
Wrth benderfynu cais cynllunio, bydd presenoldeb Rhywogaeth a Warchodir (PS) yn ystyriaeth berthnasol os yw’r cynnig datblygu’n debygol o achosi aflonyddwch neu niwed i’r rhywogaeth, ac weithiau i’w cynefin.
Yn ôl TAN 5:
“Mae’n hanfodol sefydlu a oes rhywogaethau a warchodir yn bresennol neu beidio, a sut y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arnynt, cyn rhoi caniatâd cynllunio neu fel arall ni fydd yr holl ystyriaethau perthnasol wedi cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad.”
Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried effaith bosib y datblygiad ar y rhywogaeth ar sail gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi eu cais. Gallai hyn gynnwys Arolwg Rhywogaeth a Warchodir neu Arolwg Cam 1 Estynedig, cynigion gwneud iawn, mesurau lliniaru neu wella a darluniau i gefnogi cynnwys nodweddion o’r fath. Bydd yr Awdurdod hefyd yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) sef corff cadwraeth naturiol statudol Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch â'n Hecolegydd
Dylid anfon unrhyw ymholiad am rywogaethau a safleoedd a warchodir at yr Ecolegydd Cynllunio drwy ffonio 01646 624800 neu ebostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk.