Rheoli Coetiroedd

Mae coetiroedd yn adnodd ecolegol pwysig sy’n darparu cynefinoedd allweddol yn ein hamgylchedd bregus. Maen nhw’n ddalfa garbon ar adeg pan fo ein planed dan fygythiad cynyddol gan gynhesu byd-eang. Maen nhw’n cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau sy’n dibynnu ar gyflwr amgylcheddol da'r cynefinoedd hyn.

Yn anffodus, oherwydd nifer o ffactorau dros nifer o flynyddoedd, mae cyfran fawr o’n hadnoddau coetiroedd dan fygythiad ac ar drai. Mae angen i ni wella’r cynefinoedd pwysig hyn i ddiogelu’r rhywogaethau allweddol hyn.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ac yn rheoli dros 250 hectar o goetir.

 

Mae coetiroedd yn gefnlen wych i nifer o ardaloedd yn Sir Benfro, ac fe ddylid ystyried eu bod mor bwysig â’n harfordir rhagorol. Mae yna alw am fynediad a hamdden yng nghefn gwlad. Mae coetiroedd yn darparu cyfleoedd gwych i fwynhau gweithgareddau hamdden sydd o fudd i iechyd a lles pobl, ac i ddod i werthfawrogi ein hamgylchedd arbennig ein hunain yn well. Mae addysg yn mynd yn ôl i’r coed wrth i nifer o Ysgolion Coedwig gael eu sefydlu yn ein sir.

Clefydau Coed

Ers 2009, mae dau glefyd coed difrifol ar goed llarwydd ac ynn wedi bod yn effeithio ar safleoedd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.  Mae’n wir fod gan goed llarwydd ganlyniadau economaidd i dyfwyr pren, ond mae’r onnen yn goeden frodorol bwysig ac mae yna wir berygl y gallai ddiflannu o’n hardaloedd gwledig, fel a ddigwyddodd yn y 1970au gyda chlefyd llwyfen yr Iseldiroedd.

Mae chalara fraxinea, neu fel y caiff ei adnabod yn fwy cyffredin, clefyd coed ynn, yn glefyd ffwngaidd sy’n benodol i goed ynn. Caiff ei wasgaru wrth i’r gwynt gario’r sborau ac mae eisoes wedi diffeithio coed yn Nenmarc a thu hwnt ar y cyfandir.

Yn 2012, cadarnhawyd clefyd coed ynn ar safleoedd wedi eu plannu yn y Deyrnas Unedig, ble mewnforiwyd coed o ardaloedd wedi eu heintio yn Ewrop, ac mae eisoes wedi lledaenu i’r amgylchedd ehangach mewn ambell leoliad, gan gynnwys un yng Nglan-y-fferi yng Nghymru.

Y gobaith yw y bydd darganfod y clefyd yn gynnar, a chael gwared ar goed ifainc sydd wedi eu heintio, yn gallu arafu colled y coed ynn a’r coetir sydd gymaint ag 14% o’n hadnodd coetir yng Nghymru, ac efallai’n fwy, hyd yn oed, yn Sir Benfro. Mae yna obaith hefyd y gallai rhai coed fod yn gallu gwrthsefyll y clefyd yn well.

Mae phytophthora ramorum yn glefyd ffwngaidd arall a ledaenir gan ddŵr ac yn yr aer, ac mae’n gallu effeithio ar amrywiaeth o blanhigion. Y prif blanhigion sy’n ei gynnal yw’r rhododendron a’r llarwydden ond mae hefyd yn medru ymosod ar fathau eraill o goed yn ogystal â phlanhigion yr ardd, fel y wifwrnwydden a’r magnolia, a phlanhigion y gweundir, fel llus.

Cafodd ei adnabod am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2009 ac roedd wedi effeithio ar ardaloedd helaeth o larwydd yn Ne a Gorllewin Cymru. Cwympodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro tua 400 o goed llarwydd heintiedig ym mis Mehefin 2013.

Pontfaen Woods, Gwaun Valley, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

1. Dilynwch fesurau bioddiogelwch syml

Os ydych yn byw mewn ardal ble cadarnhawyd clefyd coed, neu’n ymweld ag ardal o’r fath, fe fydd dilyn mesurau bioddiogelwch syml fel y rheiny a nodwyd isod yn helpu cyfyngu ar ledaeniad.

  • Parchwch arwyddion ‘ar gau’ – efallai y bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cau llwybrau o amgylch safleoedd sydd wedi eu heintio, er mwyn cyfyngu ar y nifer o bobl sy’n cerdded trwy’r ardal heintiedig.
  • Esgidiau a dillad glân – brwsiwch y mwd a’r gweddillion oddi arnynt.
  • Gadewch unrhyw ddefnyddiau planhigion ar y safle – fe fydd hyn yn helpu cyfyngu ar ledaeniad.
  • Sicrhewch fod cŵn yn cael eu glanhau ar ôl eu cerdded – fe fydd hyn yn helpu cyfyngu ar ledaeniad y sborau.

 

2. Riportiwch unrhyw achosion o goed wedi eu heintio yr ydych yn eu gweld

Gwelir y symptomau yn y fideos yn y dolenni isod.


Os ydych yn poeni am goed yr ydych wedi eu gweld, gallwch riportio’ch darganfyddiadau (nodwch y lleoliadau a chymerwch ffotograffau) gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:

More on Conservation