Cynllun Noddi Iet

Os ydych chi’n mwynhau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yr hoffech gefnogi’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i gynnal y tirlun godidog hwn, gallwch yn awr helpu drwy roddi i’n cynllun Noddi Iet.

Mae yna dros 100 o ietau ar gael i’w noddi ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Rhoddir plac personol ar bob iet a gaiff ei noddi, gan roi ichi’r dewis o noddi iet er cof am anwylyd, fel rhodd i rywun arbennig, drwy eich cwmni neu hyd yn oed yn eich enw ei hun.

Coast Path gate at Abereiddi, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Prif fanylion y cynllun:

  • Mae pob iet yn costio £600 i’w noddi.
  • Y cyfnod noddi fydd 10 mlynedd.
  • Fel rhan o’r broses noddi caiff pob noddwr gynnig plac personol y bydd y Parc Cenedlaethol yn ei osod ar y iet a noddir.
  • Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y cynllun Noddi Iet yn cyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw’r Llwybr Arfordir godidog ac ardal ehangach Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  • Mae’r geiriau canlynol ar gael ar gyfer y placiau:
    – ‘Er cof am…(enw)’
    – ‘Noddwyd gan…(enw)’
    – ‘Rhoddwyd gan.(enw)’

Os hoffech chi Noddi Iet, lawrlwythwch y ffurflen gais a’i dychwelyd at ein Swyddog Ariannu Allanol, drwy e-bost.

Neu drwy’r post i:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Taliadau

Cewch dalu gyda siec, yn daladwy i ‘Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’ a’i hanfon i’r cyfeiriad uchod. Os nad ydych yn postio’r ffurflen gais, dylid cynnwys nodyn gyda’r sieciau, gan gyfeirio at y cynllun a lleoliad y gât y mae’r unigolyn yn ei noddi.

Gallwch hefyd dalu drwy gerdyn debyd/credyd, drwy ffonio’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01646 624800.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ‘Noddi Iet’ cysylltwch â ni drwy ffonio 01646 624825 neu e-bostio ein Swyddog Ariannu Allanol, drwy e-bost.

Meinciau

Nid oes gennym feinciau ar gael i’w noddi. Ein polisi cyffredinol yw peidio â rhoi gormod o ddodrefn ar ein Llwybr Arfordir a chynnal ei dirwedd hardd a digyffwrdd.

Ffyrdd arall y gallwch chi gymryd rhan yn y Parc Cenedlaethol