Pwyllgor Personél

Rydyn ni'n cyflogi tua 150 aelod o staff ac yn ymdrechu i sicrhau bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle da i weithio.

Mae pob polisi sy’n ymwneud â chyflogaeth, amodau a thelerau, iechyd a lles yn cael eu penderfynu gan y Pwyllgor Personél. Mae’r Pwyllgor hwn yn cynnwys 9 Aelod o’r Awdurdod ac, fel arfer, yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn.

Mae unrhyw bolisi newydd sy’n effeithio ar staff yn cael ystyriaeth gan ein Grŵp Cynrychiolwyr Staff a/neu Grŵp Iechyd a Diogelwch yn gyntaf.

Yna, mae’r polisi’n mynd gerbron y Fforwm Gweithwyr, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o blith y staff, aelod o Unison ac Aelodau’r Awdurdod.

Yna, mae’r Pwyllgor Personél yn ystyried y polisi, ynghyd ag unrhyw ddiwygiadau/sylwadau a awgrymwyd gan y Fforwm Gweithwyr.