Dydy gwirfoddoli i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddim wastad yn golygu gweithio yn yr awyr agored neu deithio i wahanol safleoedd.
Hefyd, mae angen gwirfoddolwyr yn ein canolfannau yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc. Mae’n bosib bod cyfleoedd ar gael i wirfoddoli yn ein Prif Swyddfa yn Noc Penfro, felly os ydych chi’n gallu trefnu ac archifo, cysylltwch â ni.
Isod, mae enghreifftiau o’r tasgau y mae gwirfoddolwyr yn eu gwneud yn y canolfannau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw un o’r swyddi hyn cysylltwch â’r Swyddog Gwirfoddoli ar 01646 624847 neu ebostiwch volunteering@arfordirpenfro.org.uk.
Pentref Oes Haearn Castell Henllys (ger Trefdraeth, Gogledd Sir Benfro)
- Plethu helyg / gwneud basgedi / dynion gwiail (darperir hyfforddiant).
- Plannu / cynnal a chadw / cynnal teithiau o amgylch yr ardd berlysiau.
- Helpu mewn sgyrsiau/digwyddiadau min nos (gosod a glanhau).
- Monitro / hybu bywyd gwyllt ar y safle.
Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc (Tyddewi, Gorllewin Sir Benfro)
- Cynorthwyydd yr Oriel – goruchwylio’r oriel, sy’n cynnwys casgliadau o Amgueddfa Cymru.
- Helpu gyda gweithgareddau a gweithdai celf a chrefft.
- Helpu mewn digwyddiadau mawr, fel ffeiriau tymhorol.
Castell a Melin Heli Caeriw (ger Dinbych-y-pysgod, De Sir Benfro)
- Arddangos crefftau a sgiliau Tuduraidd fel nyddu, pobi bara, gwehyddu a chaligraffeg.
- Plannu a chynnal a chadw’r ardd berlysiau.
- Helpu i gadw trefn, a gwerthu tocynnau mewn digwyddiadau cyhoeddus mawr, fel y theatr awyr agored.
Prif Swyddfa Awdurdod y Parc Cenedlaethol (Doc Penfro, De Sir Benfro)*
- Cofnodi ac archifo lluniau digidol.
*Dim ar gael ar hyn o bryd oherwydd covid-19.