Pwyllgor Cynorthwyo A Datblygu Aelodau

Diben y Pwyllgor yw:

  1. Gofalu bod cymorth yn cael ei ddarparu i Aelodau’r Cynulliad, a’u bod yn cael eu datblygu.
  2. Gofalu bod y Strategaeth Datblygu Aelodau yn cael ei rhoi ar waith, gan gynnwys cynllun cynefino’r Aelodau a’r Cynllun Hyfforddi.
  3. Datblygu cais am statws Siarter Uwch yn Siarter Cynorthwyo a Datblygu Aelodau Cymru a’i argymell i’r Awdurdod cyn ei gyflwyno i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  4. Hyrwyddo gwerth y Siarter ac annog yr holl Aelodau i fod â rhan yn y broses o sicrhau statws Siarter Uwch.
  5. Adolygu’r cymorth sydd ar gael i’r Aelodau a gwneud argymhellion i’r Awdurdod fel y bo’r angen.
  6. Ystyried unrhyw fater arall y bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei gyfeirio at y Pwyllgor.

 

Bydd y Pwyllgor yn cynnwys 9 Aelod o’r Awdurdod a bydd yn cwrdd fesul chwarter, gan wneud argymhellion i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.