Ffeithiau a Ffigyrau

Darganfyddwch rai o’r ffeithiau a ffigyrau diddorol sy'n amlygu pam fod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mor arbennig.

Dibenion y Parc

Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi mai dibenion Awdurdod Parc Cenedlaethol yw:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal y parc
  • Hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall nodweddion arbennig yr ardal a’u mwynhau.

Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi, wrth fynd ar drywydd y dibenion hyn, ei bod yn ddyletswydd ar yr Awdurdod i geisio meithrin lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau lleol.

Ystadegau

  • Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnwys bron y cyfan o Arfordir Penfro, pob ynys oddi ar y lan, aber y Daugleddau ac ardaloedd mawr o Fynyddoedd y Preseli a Chwm Gwaun.
  • Mae’n un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y Deyrnas Unedig, ond mae ganddo un o’r tirweddau mwyaf amrywiol.
  • Mae’n siâp digon rhyfedd – ar ei fwyaf llydan mae tua 16km o led, ac ar ei fwyaf cul mae tua 100m.
  • Poblogaeth sy’n byw yma 22,350 (2018)
  • Hyd y morlin 420 km.
  • Eiddo preifat – mae llai na 2% o ardal y Parc Cenedlaethol yn eiddo i Awdurdod y Parc.
  • Mae’r Parc tua 615 km sgwâr.
  • Dŵr glân – cafodd pob traeth lle samplwyd dŵr sgôr gwych (27) neu dda (2) yn 2022. I weld y sgoriau ansawdd dŵr ymdrochi diweddaraf ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd).
  • 10 traeth Baner Las a 7 Gwobr Arfordir Glas (2022). I gael rhagor o wybodaeth am wobrau traeth ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus (agor mewn ffenest newydd).
  • Pasiwyd Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad ym 1949.
  • Mae’r tirweddau “gorau” yn y wlad yn Barciau Cenedlaethol, ac maen nhw’n cynnwys tua 20% o gefn gwlad Prydain neu 25% os ydych chi’n cynnwys Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
  • Mae Parciau Cenedlaethol yn bodoli er mwyn sicrhau bod y tirweddau arbennig hyn yn cael eu gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Mae yna 15 Parc Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig

  • 10 yn Lloegr – Ardal y Pegynau, Dartmoor, Dolydd Swydd Efrog, Ardal y Llynnoedd, Exmoor, The Broads, Rhosydd Gogledd Efrog, Northumberland, The New Forest a Thwyni’r De.
  • 3 yng Nghymru – Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.
  • 2 yn yr Alban – Loch Lomond a’r Trossachs, Y Cairngorms (Parc Cenedlaethol mwyaf y Deyrnas Unedig).
Garn Fawr

Pam mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle mor arbennig?

  • Dyma’r unig Barc Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ei ddynodi’n bennaf am ei dirwedd arfordirol.
  • Nid oes unlle yn y Parc Cenedlaethol sy’n fwy na 10 milltir o’r môr.
  • Roedd gan 10 statws Gwobr y Faner Las yn 2019, y nifer uchaf yng Nghymru.
  • Mae 7 traeth wedi ennill y Wobr Arfordir Glas yn 2022, y nifer uchaf yng Nghymru. Mae’r wobr yn cydnabod traethau bach sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf a dŵr ymdrochi o’r radd flaenaf.
  • Dyfrffordd Aberdaugleddau yw’r ail harbwr naturiol dyfnaf yn y Byd (ar ôl Harbwr Sydney yn Awstralia).
  • Yn ecolegol, mae’n un o’r ardaloedd mwyaf cyfoethog ac amrywiol yng Nghymru ac mae’n cael ei chydnabod fel un sydd o bwysigrwydd rhyngwladol am amrywiaeth eang o gynefinoedd o ansawdd uchel a rhywogaethau prin.
  • Mae traean o’r parau o frain coesgoch sy’n nythu ym Mhrydain yn Sir Benfro.
  • Ar Ynys Gwales mae un o’r gytrefi fwyaf o fulfrain gwynion yn y byd.

 

Adlewyrchir gwerth uchel y Parc, o ran ei fywyd gwyllt, yn ei ddynodiadau cadwraeth, sy’n cynnwys

  • 12 Ardal Cadwraeth Arbennig (mae 3 ACA morol yn gorgyffwrdd tua 75% o forlin y Parc ac yn cynnwys tua 60% o’r ardal gyda’r glannau).
  • 5 Ardal Gwarchodaeth Arbennig.
  • 1 Parth Cadwraeth Forol (PCF), Sgomer – un o dair yn y Deyrnas Unedig.
  • 7 Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
  • 60 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
  • 80% o forlin y Parc Cenedlaethol o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae gan y Parc dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog:

  • 286 Heneb Gofrestredig.
  • 1234 Adeilad Rhestredig.
  • 14 Ardal Gadwraeth.
  • 15 o barciau a gerddi hanesyddol.
  • 9 tirwedd archeolegol bwysig.
  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar ddau safle hanesyddol pwysig yng Nghastell a Melin Heli Caeriw a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.
  • Mae Castell Henllys yn fryngaer o’r Oes Haearn a ail-grewyd ac roedd yn anheddiad ffyniannus 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n cynnwys yr unig dai crwn ym Mhrydain i gael eu hail-greu ar y safle ble cawsant eu cloddio.
  • Mae Melin Caeriw yn un o 4 melin heli a adferwyd ym Mhrydain.
Aerial photograph of the Pembrokeshire Coast National Park Authority's headquarters in Pembroke Dock.

Beth yw swyddogaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro?

1. Cynllunio

  • Mae diben statudol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn anelu at warchod nodweddion arbennig y Parc trwy ei benderfyniadau ar faterion cynllunio, tra’n caniatáu i’r cyhoedd fwynhau’r nodweddion arbennig hynny a’u deall.
  • Yn 2018/19 llwyddwyd i benderfynu ar 90% o’r holl geisiadau cynllunio o fewn yr amser gofynnol.
  • Yn 2018-19, penderfynwyd ar 500 o geisiadau cynllunio gennym, pob un yn cymryd 69 diwrnod (10 wythnos) ar gyfartaledd i’w benderfynu. Mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o 77 diwrnod (11 wythnos) ar draws Cymru.
  • Yn 2018/19 gwnaeth 79% cael eu cymeradwyo.

 

2. Sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion hamdden a chadwraeth

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio i sicrhau y gall pobl fwynhau’r Parc ond eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n mynd law yn llaw gyda’r amgylchedd a’r gymuned leol.

Rheoli Llwybr yr Arfordir

  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnal a chadw Llwybr Cenedlaethol 186 milltir (300km) Llwybr Arfordir Sir Benfro gyda nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
  • Lefel boddhad uchaf unrhyw lwybr yn y Deyrnas Unedig – enillodd Wobr cylchgrawn Coast am y Llwybr Arfordirol Gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer 2010.
  • Agorwyd Llwybr yr Arfordir ym 1970 ar ôl 17 mlynedd o ymgynghori ac adeiladu.
  • Cyfanswm y codi a’r gostwng ar hyd y llwybr cyfan yw 35,000 troedfedd – mwy nag Everest.
  • Y pwyntiau ar y naill ben a’r llall yw’r bont i’w dwyrain o Gastell Llanrhath a’r llithrfa i’r gogledd o Landudoch.
  • Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

 

Hawliau Tramwy Eraill

  • Yn ogystal â’r 300km o Lwybr yr Arfordir, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnal a chadw’r rhwydwaith o 770km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus mewndirol o fewn y Parc, gan gynnwys 188km o lwybrau ceffylau.
  • Ynghyd â llwybrau caniataol a Llwybr yr Arfordir mae hyn yn ffurfio rhwydwaith o 1148km. Mae hyn yn cael ei gymharu â thua 800km o ffyrdd yn y Parc.

 

Rheoli Tir

  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn prydlesu’r 200m o flaendraeth oddi wrth y Goron.
  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar tua 300 hectar o goetiroedd neu’n eu rheoli.
  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli tua 50 o feysydd parcio/golygfannau a safleoedd picnic.

 

Mynediad i Bawb

  • Gostyngwyd y nifer o sticlau y mae’n rhaid eu croesi mewn ymdrech i sicrhau bod Llwybr yr Arfordir yn fwy hygyrch i bobl llai abl. Gwaredwyd 400 o sticlau neu gosodwyd gatiau yn eu lle, dros y 15 mlynedd diwethaf.
  • Erbyn hyn, mae yna dros 40 o deithiau cerdded Mynediad Hwylus sydd ag arwyneb neu sydd heb rwystrau ac sy’n hygyrch i’w defnyddio gan gadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn addas.
  • Teithiau ar y we – mae dros 200 o deithiau cylch ar gael ar y wefan.

 

3. Addysg a Gwybodaeth

  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rhedeg Gwasanaeth Darganfod sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer ysgolion a cholegau ac mae’n trefnu Gweithgareddau a Digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd.
  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rhedeg Canolfannau Gwybodaeth yn Oriel y Parc, Nhyddewi.
  • Mae Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn croesawu dros 140,000 o bobl y flwyddyn, Castell Henllys dros 20,000, y flwyddyn, a Chastell a Melin Heli Caeriw dros 40,000.
  • Oriel y Parc yw Oriel a Chanolfan Ymwelwyr yr Awdurdod yn Nhyddewi ac mae’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Yn ogystal â’r oriel a’r Ganolfan Ymwelwyr, mae’n gartref i Ystafell Ddarganfod, stiwdio Artist Preswyl a siop.
  • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi datblygu nifer o lwybrau darganfod at ddefnydd y cyhoedd, sy’n eu tywys o amgylch safleoedd penodol yn y Parc. Maen nhw’n cynnwys Porth Lliw, Dinbych-y-pysgod, Trefdraeth, Porthgain a Nanhyfer.
  • Mae’r prosiect Walkability yr Awdurdod yn helpu pobl o bob gallu fwynhau’r arfordir a chefn gwlad. Mae’r proseict wedi gweithio gyda dros 600 o grwpiau (dros 6,000 o gyfranogwyr) mewn mwy na 150 o leoliadau.

 

4. Cadwraeth

  • Mae cymorth grant a help ymarferol ar gael i ailgyflwyno arferion ffermio traddodiadol i’r Parc dan Gynllun Gwarchod y Parc.
  • Mae Maes Awyr Tyddewi yn eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn cael ei rheoli fel bod cynefinoedd yn cael eu gwarchod, yn enwedig glaswelltir sy’n gyfoeth o berlysiau, gweundir gwlyb ac adar sy’n nythu ar y tir fel yr ehedydd. Gwelwyd cynnydd yn y nifer o ehedyddion wedi gohirio torri’r gwair.
  • ae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar Ganolfan Goetir Cilrhedyn sy’n defnyddio pren diamedr bach a geir yn lleol ac yn annog arferion rheoli cynaliadwy mewn coetiroedd brodorol.

 

Sut ydyn ni’n annog eraill i warchod yr ardal hyfryd hon

  • Mae’r dirwedd arfordirol a’i bywyd gwyllt yn atyniad pwysig i ymwelwyr. Mae Llwybr yr Arfordir yn denu tua 1m o ddiwrnodau defnyddwyr bob blwyddyn ac mae’n un o asedau economaidd pwysicaf y sir.
  • Helpwch yr economi lleol – arhoswch yn y Parc Cenedlaethol a chefnogwch fusnesau lleol.
  • Ceisiwch ostwng eich defnydd o’r car – defnyddiwch Wasanaethau y Bysiau Arfordirol.
  • Parchwch yr amgylchedd – peidiwch â phigo blodau gwyllt na tharfu ar adar sy’n nythu, cadwch eich ci ar dennyn – dilynwch y Cod Cefn Gwlad.
  • Byddwch yn ddistaw – mae llonyddwch yn un o’r nodweddion arbennig a drysorir fwyaf yn y Parc.
  • Cymerwch ran – gwirfoddolwch am ddigwyddiad glanhau’r traeth, fel Warden Gwirfoddol neu ymunwch efo Chyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Darganfyddwch mwy am Arfordir Penfro