Nodwch, mae'r arddangosfa hon bellach wedi cau. Mae’n hollol wir, mae awyr iach yn dda i chi! A does dim rhaid crwydro ymhell chwaith – mae pethau newydd i’w darganfod dan eich trwyn hyd yn oed.

Wedi’i churadu gan Amgueddfa Cymru a’i chynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, nod Ar Eich Stepen Drws yw ysbrydoli pawb i archwilio’r natur, daeareg ac archeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas, a mwynhau’r manteision iechyd a lles y gall hyn eu cynnig.

Cafodd y canfyddiadau yn yr arddangosfa hon eu gwneud gan bobol fel chi, yn eu milltir sgwâr. Rhai yn y goedwig neu ar y traeth, eraill mewn gardd gefn neu gae ­erm. Roedd un ar safle adeiladu hyd yn oed!

Sylwch fod yr arddangosfa hon bellach wedi cau.

Cymerwch Rhan!

Gobeithiwn y bydd Ar Eich Stepen Drws yn eich ysbrydoli i fynd allan a dechrau archwilio. Sgroliwch i waelod y dudalen i weld canllawiau ac adnoddau i’ch helpu i nodi eich canfyddiadau.

Rhannwch eich darganfyddiadau stepen drws gyda ni. Cyffredin neu brin, mawr a bach rydym am eu gweld nhw i gyd! Anfonwch eich lluniau, lluniau a golygfeydd i:

@CardiffCurator @SF_Archaeology @PembsCoast @OrielyParc #stependrws neu ebostiwch mailto:stependrws@arfordirpenfro.org.uk.

Ydych chi wedi dod o hyd i rywbeth sy’n peri penbleth? A allai fod yn rhywbeth prin, neu’n rhywbeth hen? Mynnwch help gan wyddonwyr yn Amgueddfa Cymru.

 

Beth sydd yn arddangosfa Ar Eich Stepen Drws?

Rhywogaethau fel:

Archaeoleg, gan gynnwys:

Pobl, fel

  • Ronald Lockley a sefydlodd Arsyllfa Adar gyntaf y DU ar Ynys Sgogwm
  • Harry Morrey Salmon a arloesodd y defnydd o ffotograffiaeth fflach i gofnodi adar nosol ar Ynys Sgomer.

Fideos archwilio natur i’ch ysbrydoli

Cyfweliad efo Pat Wolseley, Cenolegydd (Isdeitlau Cymraeg)

Gwlithen a malwod

Cân yr adar

Trap Magl

Rhedyn

 

Adnabod a chofnodi natur

Bydd yr apiau ffôn clyfar hyn yn eich helpu i nodi a chofnodi’r natur rydych chi’n ei gweld yn eich gardd, neu tra allan:

Ond does dim byd yn curo ymuno â grŵp profiadol yn yr awyr agored. Maent bob amser yn awyddus i’ch helpu i ddod o hyd i fwy a sylwi arno, ac maent wedi bod yn gwneud gwyddoniaeth dinasyddion ers bron i 200 mlynedd! Mae cymdeithasau recordio arbenigol yn dal yn weithgar iawn ac yn cynnal cyfarfodydd maes yn yr awyr agored ledled y DU. Mae croeso mawr i ddechreuwyr fel arfer. Gallwch ddod o hyd i restr o rai o’r grwpiau hyn ar ein tudalen adnoddau gwyddorau naturiol.

 

Blog Amgueddfa Cymru

Darganfyddwch sut a wnaeth Amgueddfa Cymru baratoi a chludo gwrthrychau’r amgueddfa a ddefnyddiwyd yn yr arddangosfa a beth oedd yn ei olygu o safbwynt curadur.