Yn anffodus mae trosedd treftadaeth yn niweidio safleoedd hanesyddol ar draws y Parc Cenedlaethol ag ardal Dde Orllewin Cymru. Fedrwch helpu ni diogelu ein tirwedd hanesyddol trwy reportio problemau i GwarchodTreftadaeth.
Amdan GwarchodTreftadaeth
Yn cydweithio hefo Heddlu Dyfed-Powys, Cadw ag yr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi sefydlu GwarchodTreftadaeth i:
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o safleoedd mewn perygl o drosedd treftadaeth
- Galluogi’r cyhoedd i reportio trosedd treftadaeth
- Cynnal sesiynau hyfforddiant i gydnabod safleoedd treftadaeth a throsedd treftadaeth
- Monitro a phatrolio safleoedd mewn perygl o drosedd treftadaeth
- Cario allan gwaith atgyweirio ar safleoedd sydd wedi eu heffeithio gan drosedd treftadaeth.
Beth yw trosedd treftadaeth?
Mae trosedd treftadaeth yn cymeryd lle pan mae gweithgaredd anghyfreithlon yn cymeryd lle sydd yn niweidio adeilad, heneb, safle damwain milwrol a thirweddau hanesyddol. Mae henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig wedi ei diogelu trwy ddeddfau ac mae’n drosedd i ddinistrio neu ddifrodi nhw. Mae safleoedd hanesyddol eraill sydd ddim yn un o’r ddau gategori yma hefyd o dan fygythiad gan weithgaredd anghyfreithlon.
Mae esiamplau o drosedd treftadaeth yn cynnwys:
- Gweithgaredd oddi ar y ffordd anghyfreithlon
- Lladrad
- Fandaliaeth/graffiti
- Difrod troseddol
- Dechrau tan, gan gynnwys tanau hamdden a llosgi defod
- Aflonyddu safle claddu
- Canfod mhetal anghyfreithlon
- Tynnu neu aildrefnu deunydd archaeolegol
- Dinistrio deunydd archaeolegol
- Gwaith heb ganiatâd ar safleoedd hanesyddol dynodedig
Mae fwy o wybodaeth am drosedd treftadaeth ar gael ar wefan Cadw.

Esiamplau o drosedd treftadaeth niweidiol i henebion eiconig y Parc Cenedlaethol; graffiti yn siambr claddu Pentre Ifan (uwch chwith), tystiolaeth o dan ar wersyll Carn Ingli (uwch dde), arian wedi ei tharo mewn i groes pererin yn Nanhyfer (is dde) ag aildrefniad o garnedd gron oes yr efydd Carn Briw (is chwith).
Sut fedrwch helpu
Mae niferoedd o ffyrdd fedrwch ein helpu i daclo trosedd treftadaeth.
1. Reportio trosodd treftadaeth
Fedrwch reportio problemau sydd yn effeithio safleoedd treftadaeth trwy ddefnyddio un o’r opsiynau canlynol:
- Os mae problem yn bwriadu ac yn fyw ffoniwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu ar 999 mewn argyfwng brys. Fedrwch hefyd reportio trwy wefan Heddlu Dyfed-Powys.
- E-bostiwch Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
- Llenwch y ffurflen reportio GwarchodTreftadaeth neu e-bostiwch Archaeoleg Arfordir Penfro.
- Postiwch ar dudalen Facebook GwarchodTreftadaeth.
Pa bynnag opsiwn rydach yn dewis i reportio problem, mi fydd y wybodaeth ganlynol yn defnyddio iawn:
- Enw’r safle hanesyddol (os rydach yn gwybod hyn).
- Mae gwybodaeth ddefnyddiol i helpu adnabod safleoedd dynodedig ar gael trwy wefan Cadw neu wefan Archwilio ar gyfer safleoedd di-dynodedig.
- Manylion o’r digwyddiad.
- Dyddiad ag amser o’r digwyddiad, gan gynnwys pryd ddaru chi weld y problem/au.
- Lleoliad y digwyddiad (cyfeiriad, cod post, cyfeirnod grid ayyb.).
- Statws presennol y digwyddiad e.e. ydi’r digwyddiad yn fyw ac yn bodoli nawr.
- Lluniau
2. Gwirfoddoli
Pam ddim helpu ni monitor cyflwr safleoedd treftadaeth, gan gynnwys safleoedd mewn perygl o drosedd treftadaeth? Mi fydd cyfle o bosib i helpu cario allan gwaith atgyweirio. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy ein e-bost archaeoleg@arfordirpenfro.org.uk neu ffoniwch 01646 624830.
3. Cadwch I fyny i ddyddiad hefo GwarchodTreftadaeth
Dilynwch ni ar dudalen Facebook GwarchodTreftadaeth neu cofrestrwch i’n rhestr e-bost GwarchodTreftadaeth.