Cylchlythr blynyddol 2022 Gwarchod Treftadaeth

Cyhoeddwyd : 20/12/2022

Gan weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys, Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sefydlodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Gwarchod Treftadaeth i:

  • Godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o safleoedd sydd mewn perygl o droseddau treftadaeth
  • Galluogi’r cyhoedd i roi gwybod am droseddau treftadaeth
  • Darparu sesiynau hyfforddi ar gydnabod safleoedd treftadaeth a chydnabod troseddau treftadaeth
  • Monitro a phatrolio safleoedd sydd mewn perygl o droseddau treftadaeth
  • Atgyweirio safleoedd y mae troseddau treftadaeth yn effeithio arnynt.

Nod y cylchlythyr hwn yw darparu crynodeb o weithgareddau a materion sy’n ymwneud â Chynllun Gwarchod Treftadaeth Dyfed-Powys ar gyfer 2022.

Pembrokeshire Coast National Park volunteers helping the community archaeologist and area ranger reconsolidate the shape of a protected bronze age cairn, following ongoing disturbance from visitors

Adroddiadau troseddau treftadaeth
Daeth nifer o adroddiadau ar droseddau treftadaeth i law, gan gynnwys; graffiti, aflonyddwch, llosgi bwriadol, difrod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Patrolau
Ymwelwyd â safleoedd yr effeithiwyd arnynt neu sydd mewn perygl o droseddau treftadaeth. Roedd hyn yn cynnwys patrolau gan gydweithwyr o blith yr heddlu, staff o sefydliadau cysylltiedig a gwirfoddolwyr.

Cyhoeddusrwydd
Sefydlwyd cyfrif Twitter a threfnwyd bod negeseuon yn cael eu postio’n rheolaidd er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau treftadaeth a’r cyfrwng adrodd priodol. Cynhaliwyd sgyrsiau cyhoeddus am ddim.

Hyfforddiant
Darparwyd hyfforddiant rhithiol ar droseddau treftadaeth gan weithwyr treftadaeth proffesiynol i gydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys.

Atgyweirio
Gwnaed gwaith atgyweirio ar safleoedd yr effeithiodd troseddau treftadaeth arnynt, gan gynnwys glanhau graffiti ac aflonyddu ar garneddi.

Cofiwch – Os gwelwch chi rywbeth, rhowch wybod i’ch heddlu lleol, gan ddefnyddio #YmgyrchTreftadaethCymru

I gysylltu â thîm GwarchodTreftadaeth e-bostiwch archaeloeg@arfordirpenfro.org.uk.