Gwlad y Chwedlau

Dysgwch am rai o’r straeon chwedlonol sydd â chysylltiadau â Sir Benfro

Maen nhw’n sôn am dylwyth teg yn codi capfeini anferth, cewri yn hyrddio meini mawr i lawr llechweddau; anghenfil brawychus mewn llyn a choeden ywen sy’n gwaedu.

Mae’r gyfres hon o ffilmiau a chlipiau sain byr gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dod â’r straeon hyn a mwy yn fyw, gan eu cysylltu â’r dirwedd fel rhan o’r prosiect partneriaeth sy’n cael ei ariannu gan Croeso Cymru ar gyfer Blwyddyn Chwedlau 2017.

Cliciwch ar enw lle ar y rhestr isod i gael mwy o wybodaeth am y cysylltiadau chwedlonol i’r lleoliad hwnnw.