Fel safle partner ar gyfer arddangosfeydd Amgueddfa Cymru, bydd gennym arddangosfa am ddim i archwilio, tanio sgwrs a thanio chwilfrydedd.
Yn 2024/25 rydym yn dathlu 200 mlynedd o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), yr elusen sy’n ymroddedig i achub bywydau ar y môr. Mae chwe gorsaf bad achub a 13 o draethau achubwyr bywyd yr RNLI ar hyd arfordir hardd ond peryglus Sir Benfro. Mae Calon a Chymuned – RNLI 200 Cymru yn amlygu straeon o bob rhan o Sir Benfro o’r 1800au hyd heddiw. Mae’r arddangosfa’n cynnwys digon i’w weld, ei wneud ac i ysbrydoli ymwelwyr ifanc, gyda llawer o elfennau rhyngweithiol – sain, ffilmiau, gemau, gwneud clymau a gwisgo lan.
Mae Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS), Bryony Rees, wedi llunio pecyn Cefnogi Athrawon sy’n amlygu adnoddau cwricwlwm arfordirol a chyfleoedd dysgu.
Dewch o hyd i’r adnoddau yma, ac adnoddau arddangos yma.
Mae yna hefyd lwybr y gellir ei lawrlwytho i helpu i archwilio safleoedd gyda chysylltiadau RNLI yn Nhyddewi ac o amgylch Penrhyn Tyddewi. Gallwch ei lawrlwytho oddi yma.
Archebu a phrisiau
I gael rhagor o fanylion neu i drefnu eich ymweliad, e-bostiwch ein Tîm Darganfod neu ffoniwch 01646 624800.
Pris y sesiwn: £6 + TAW y plentyn (Mae isafswm ffi archebu o £85 + TAW yn berthnasol).
Mae nifer cyfyngedig (£150) o fwrsarïau teithio ar gael i ysgolion tuag at gostau teithio.