Mae'r cyfnod talu yn weithredol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref (cynwysedig). Codir tâl rhwng 9am a 7pm.

Yn ystod y cyfnod hwn bydd rhaid i bob cerbyd naill ai arddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys, Tocyn Tymor wedi’i brynu ymlaen llaw neu brynu tocyn digidol ‘PayByPhone‘.

Prisiau Parcio

(mae’n rhaid i ddeiliaid bathodynnau glas dalu, ond byddant yn cael awr ychwanegol o barcio):

  • Hyd at 30 munud: £0 (dim dychwelyd cyn pen 4 awr)
  • Hyd at awr: £1.50
  • Hyd at ddwy awr: £3
  • Hyd at bedair awr: £4.50
  • Dyddiol: £6
  • Saith diwrnod: £30
  • Bysiau: Dyddiol: £8

Lleoir y meysydd parcio talu ac arddangos a rheolir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
Llanrhath, Saundersfoot Regency, Penalun, Maenorbŷr, Freshwater East, Bae Gorllewin Angle, Little Haven, Aberllydan (Broad Haven North), Nolton Haven, Niwgwl (Pebbles), Solfach, Oriel y Parc (Tyddewi), Traeth Mawr (Trefdraeth) a Thraeth Poppit

Tocynnau Tymor

Mae tocynnau ar gyfer cyfnodau hwy ar gael i’w harchebu trwy ein siop ar-lein, neu drwy glicio ar y ddolennau isod.

Yn ystod misoedd y gaeaf rydym yn croesawu rhoddion. Mae’r rhoddion hyn yn cyfrannu at gost cynnal a chadw a gwella Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 

Cerbydau Trydan

Mae gan ein maes parcio 10 PG cerbydau trydan Cyflym (max 22 kW) a  2 PG cerbydau trydan Chwim (50-120kW).

 

Telerau ac Amodau

Bydd unrhyw gerbydau sydd ddim yn arddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys, tocyn wedi’i brynu ymlaen llaw, neu brynu tocyn digidol ‘PayByPhone’ yn gymwys i gael hysbysiad cosb benodedig gan fod ein meysydd parcio yn cael eu monitro’n rheolaidd gan Swyddogion Gorfodaeth Parcio. Cyfeiriwch at yr arwyddion ar y safleoedd i weld y telerau ac amodau llawn.

Noder: Ni chaniateir cysgu dros nos mewn cerbyd ym meysydd parcio’r Awdurdod.  Os byddwch yn gwneud hyn, efallai bydd yn rhaid i chi dalu hysbysiad cosb benodol. Os oes angen llety dros nos arnoch, defnyddiwch gyfleusterau llety lleol ac ystyried yr effaith ar yr amgylchedd ac ar y gymuned leol.​

Darganfyddwch fwy am Oriel y Parc