Tocyn Tymor (Un Maes Parcio)
£50.00 inc. VAT
Mae’r tocyn ond yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car yn y maes parcio a enwir ac a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ewch i’n tudalen gwybodaeth parcio i’w gweld ar fap.
Cynlluniwch ymlaen llaw. Bydd eich tocyn tymor yn cael ei bostio atoch. Gwiriwch fanylion eich cyfeiriad danfon yn ofalus cyn i chi gyflwyno’ch archeb a chaniatewch 14 diwrnod ar gyfer danfon.
Mae’r cyfnod talu yn weithredol rhwng 15 Mawrth a 7 Tachwedd 2022 (cynwysedig). Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.
Disgrifiad
Mae’r tocyn ond yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car yn y maes parcio a enwir ac a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ewch i’n tudalen gwybodaeth parcio i’w gweld ar fap.
Mae’r cyfnod talu yn weithredol rhwng 15 Mawrth a 7 Tachwedd 2022 (cynwysedig). Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.
Lleolir y meysydd parcio talu ac arddangos a rheolir gan awdurdod y parc cenedlaethol:
- Llanrath
- Saundersfoot Regency
- Penalun
- Maenorbŷr
- Freshwater East
- Bae Gorllewin Angle
- Little Haven
- Aberllydan (Broad Haven North)
- Nolton Haven
- Niwgwl (Pebbles)
- Solfach
- Oriel y Parc, Tyddewi
- Traeth Mawr, Trefdraeth
- Traeth Poppit
Gwybodaeth pellach
Lleoliad y Meysydd Parcio | Traeth Poppit, Traeth Mawr, Trefdraeth, Oriel y Parc, Tyddewi, Solfach, Niwgwl (Pebbles), Nolton Haven, Aberllydan (Broad Haven), Little Haven, West Angle, Freshwater East, Maenorbŷr, Gorsaf Penalun, Saundersfoot (Regency), Llanrath |
---|
Telerau ac Amodau
Mae’r tocyn ond yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car yn y maes parcio a enwir ac a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Nid yw prynu’r tocyn hwn yn gwarantu bod lle parcio ar gael na chael blaenoriaeth i ddefnyddio unrhyw le parcio.
Rhaid arddangos y tocyn ar ddashfwrdd y cerbyd mewn lle y gellir ei weld yn glir bob amser drwy sgrin wynt y cerbyd. Gall methu ag arddangos y tocyn olygu talu dirwy.
Ni roddir tocynnau newydd yn lle tocynnau a gollwyd neu a ddifrodwyd ac ni ad-delir y gost.
Ni fydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli neu ddifrod i gerbydau na’u cynnwys. Mae perchnogion a gyrwyr sy’n gadael eu cerbydau a’u cynnwys mewn maes parcio a redir gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.
Cofestrif TAW: 618 3858 13
Tocynnau Tymor 2023
Rydym wedi adolygu prisiau ein tocynnau tymor ar gyfer tymor 2023, ar ôl cyfnod o chwe blynedd heb gynyddu prisiau. Mae’r tocynnau tymor yn cynrychioli cyfradd gystadleuol iawn o’u cymharu ag opsiynau parcio eraill ar draws y Parc Cenedlaethol, gyda’r arian a gynhyrchir o godi tâl am barcio yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith ar draws y Parc Cenedlaethol, gan ganiatáu i bawb gael mynediad i’w nodweddion arbennig a’u mwynhau.
Y tu allan i’r cyfnod codi tâl, rydym yn cynnig parcio am ddim ar holl feysydd parcio’r Awdurdod sy’n codi tâl am bedwar mis bob blwyddyn, o ddechrau mis Tachwedd i ganol mis Mawrth. Rydym hefyd yn cynnig 30 munud o barcio am ddim (60 munud i ddeiliaid Bathodynnau Glas) ar draws ein holl feysydd parcio codi tâl yn ystod y cyfnod codi tâl.
Os ydych wedi penderfynu peidio â phrynu tocyn tymor ar gyfer 2023, cwblhewch ein Harolwg Tocynnau Tymor ar gyfer Meysydd Parcio (agor mewn ffenestr newydd).
Postio
Bydd archebion gwerth llai na £100 yn cael eu hanfon trwy Ddosbarth 1af y Post Brenhinol am gost o £0.78.
Bydd archebion gwerth mwy na £100 yn cael eu hanfon trwy Ddosbarth 1af y Post Brenhinol (wedi’i recordio) am gost o £2.18.