• Car Park Single Site Season Ticket image
  • Empty sandy beach with wooden fence posts dotted along the shore on a sunny day. Location in picture is Newport Sands, Pembrokeshire

Tocyn Tymor (Un Maes Parcio)

£50.00 inc. VAT

Mae’r tocyn ond yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car yn y maes parcio a enwir ac a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ewch i’n tudalen gwybodaeth parcio i’w gweld ar fap.

Cynlluniwch ymlaen llaw. Bydd eich tocyn tymor yn cael ei bostio atoch. Gwiriwch fanylion eich cyfeiriad danfon yn ofalus cyn i chi gyflwyno’ch archeb a chaniatewch 14 diwrnod ar gyfer danfon.

Mae’r cyfnod talu yn weithredol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.

Clear

Disgrifiad

Mae’r tocyn ond yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car yn y maes parcio a enwir ac a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ewch i’n tudalen gwybodaeth parcio i’w gweld ar fap.

Mae’r cyfnod talu yn weithredol rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. Codir tâl rhwng 9am a 7pm ar bob safle.

Lleolir y meysydd parcio talu ac arddangos a rheolir gan awdurdod y parc cenedlaethol:

  • Llanrath
  • Saundersfoot Regency
  • Penalun
  • Maenorbŷr
  • Freshwater East
  • Bae Gorllewin Angle
  • Little Haven
  • Aberllydan (Broad Haven North)
  • Nolton Haven
  • Niwgwl (Pebbles)
  • Solfach
  • Oriel y Parc, Tyddewi
  • Traeth Mawr, Trefdraeth
  • Traeth Poppit

Gwybodaeth pellach

Lleoliad y Meysydd Parcio

Traeth Poppit, Traeth Mawr, Trefdraeth, Oriel y Parc, Tyddewi, Solfach, Niwgwl (Pebbles), Nolton Haven, Aberllydan (Broad Haven), Little Haven, West Angle, Freshwater East, Maenorbŷr, Gorsaf Penalun, Saundersfoot (Regency), Llanrath

Telerau ac Amodau

Mae’r tocyn ond yn ddilys i’w ddefnyddio gan un car yn y maes parcio a enwir ac a redir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Nid yw prynu’r tocyn hwn yn gwarantu bod lle parcio ar gael na chael blaenoriaeth i ddefnyddio unrhyw le parcio.

Rhaid arddangos y tocyn ar ddashfwrdd y cerbyd mewn lle y gellir ei weld yn glir bob amser drwy sgrin wynt y cerbyd. Gall methu ag arddangos y tocyn olygu talu dirwy.

Ni roddir tocynnau newydd yn lle tocynnau a gollwyd neu a ddifrodwyd ac ni ad-delir y gost.

Ni fydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli neu ddifrod i gerbydau na’u cynnwys. Mae perchnogion a gyrwyr sy’n gadael eu cerbydau a’u cynnwys mewn maes parcio a redir gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.

Cofestrif TAW: 618 3858 13

Postio

Bydd archebion gwerth llai na £100 yn cael eu hanfon trwy Ddosbarth 1af y Post Brenhinol am gost o £1.06.

Bydd archebion gwerth mwy na £100 yn cael eu hanfon trwy Ddosbarth 1af y Post Brenhinol (wedi’i recordio) am gost o £2.76.