Tocynnau Tymor Meysydd Parcio
Rydym wedi adolygu prisiau ein tocynnau tymor ar gyfer tymor 2023, ar ôl cyfnod o chwe blynedd heb gynyddu prisiau. Mae’r tocynnau tymor yn cynrychioli cyfradd gystadleuol iawn o’u cymharu ag opsiynau parcio eraill ar draws y Parc Cenedlaethol, gyda’r arian a gynhyrchir o godi tâl am barcio yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith ar draws y Parc Cenedlaethol, gan ganiatáu i bawb gael mynediad i’w nodweddion arbennig a’u mwynhau.
Y tu allan i’r cyfnod codi tâl, rydym yn cynnig parcio am ddim ar holl feysydd parcio’r Awdurdod sy’n codi tâl am bedwar mis bob blwyddyn, o ddechrau mis Tachwedd i ganol mis Mawrth. Rydym hefyd yn cynnig 30 munud o barcio am ddim (60 munud i ddeiliaid Bathodynnau Glas) ar draws ein holl feysydd parcio codi tâl yn ystod y cyfnod codi tâl.
Showing all 2 results