Bywyd Gwyllt

Hafan i fywyd gwyllt

Dewch i archwilio’r bywyd gwyllt bendigedig sydd wedi ymgartrefu yma ar Arfordir Penfro - heb anghofio’r amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt tymhorol sydd wrth ei fodd yn ymweld â Sir Benfro flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae Arfordir Penfro yn drysor ar dirwedd Prydain. Mae llawer ohono heb ei ddifetha na’i gyffwrdd gan ddwylo dyn na dulliau dwys bywyd a ffermio modern, ac felly mae’n gartref delfrydol i lawer o rywogaethau brodorol sydd wedi diflannu o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Mae adar prin fel y frân goesgoch, yr ehedydd a chrec penddu’r eithin wedi dewis y gweundir arfordirol fel eu cartref. Mae ystlumod a sawl math o aderyn yn hela ar hyd llinellau’r cloddiau clwm, sy’n gyfoeth o flodau gwyllt, ac mae’r morloi llwyd yn geni eu rhai bach ar ein glannau tra bod y dolffiniaid a’r llamhidyddion yn chwarae yn y tonnau.

Ac er bod y cymeriadau lleol hyn yn fwy na digon, rydyn ni hefyd yn ffodus iawn ein bod ni’n denu toreth o greaduriaid gwyllt a gwahanol sy’n dychwelyd at lannau Sir Benfro bob blwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys helforgwn, morfilod orca, siarcod glas, pysgod yr haul, slefrenni amrywiol, crwbanod y môr a dolffiniaid Risso. Rydych chi’n hynod o lwcus os cewch chi gipolwg!

Seals Resting in Wales

Porwch drwy'r tudalennau hyn i ddysgu mwy am:

  • yr adar, y mamaliaid a’r creaduriaid eraill sydd wedi ymgartrefu yn Sir Benfro.
  • sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n gweithio i sicrhau bod ein bywyd gwyllt brodorol yn parhau i oroesi a ffynnu.
  • yr holl fathau gwahanol o fywyd gwyllt, o forfilod i flodau Llwybr yr Arfordir.

Am fwy gwybodaeth am fywyd gwyllt bendigedig sydd wedi ymgartrefu yma ar Arfordir Penfro, porwch drwy’r tudalennau yn yr adran hon neu lawrlwythwch y taflenni dwyieithog yma wrth glicio’r lluniau isod.