Drochi Pyllau Trai

Ble i fynd, beth i'w wybod

Mae glannau creigiog arfordir Sir Benfro’n ferw o greaduriaid od a rhyfeddol.

Maent yn byw mewn amodau sych a gwlyb ac maent yn ddigon clyfar i lynu i’r creigiau a’r gwymon neu i guddio mewn agennau rhag cael eu golchi i’r môr gan y tonnau a’r llanw.

Montage image including creatures found in a rockpool: mussel, prawn, periwinkle, dog whelk, limpet, beadlet anenome, shore crab, purple top shell, hermit crab

Ble a Phryd

Ceir pyllau trai gwych ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae’n well ymweld â nhw pan fo’r llanw allan, ac fe welwch fwy o amrywiaeth yn ystod y misoedd cynhesach. Caiff yr arfordir a’r bywyd morol o amgylch Sir Benfro eu gwarchod.

Os y byddwn yn gofalu amdanynt gallwn eu mwynhau yn awr ac am flynyddoedd i ddod

 

Map of Pembrokeshire showing rockpooling hotspots

Awgrymiadau Defnyddiol

  • Os y byddwch yn troi’r creigiau trosodd cofiwch eu rhoi yn ôl yn yr un man.
  • Gadewch bob creadur ble y daethoch o hyd iddynt – maent yn llawer hapusach yn eu cartref eu hunain.
  • Gall y creigiau a’r gwymon fod yn llithrig iawn – cymerwch ofal.
  • Holwch beth yw amserau’r llanw – mae’n well mynd i drochi pyllau trai pan fo’r llanw allan.
  • Cadwch lygad pan fo’r llanw’n dod i mewn yn gyflym – gwnewch yn siŵr nad ydych yn cael eich ynysu gan y llanw.

Ffeithiau Ffynci

  • Bechgyn a merched...Mae’r gragen long yn wryw a benyw ar yr un pryd ac mae’n byw gan lynu ei phen i graig
  • Awel ffres y môr...Defnyddir gwymon i helpu i greu pâst dannedd.
  • Popeth i mewn a mas...Dim ond un agoriad sydd gan anemonïau môr, felly bydd eu bwyd yn mynd i mewn a’u gwastraff yn dod allan o’r un twll.
  • Pryd ar glud...Bydd llygaid meheryn yn symud o amgylch i chwilio am fwyd, ac yna’n dilyn eu llwybr yn ôl gartref.