Mae cyfnodau preswyl yn Oriel y Parc yn caniatáu i artistiaid gymryd ysbrydoliaeth oddi wrth harddwch tirwedd y Parc Cenedlaethol a gweithio gyda grwpiau ac ysgolion lleol i greu darnau gwreiddiol o waith celf.

Mae’r cyfnod preswyl hefyd yn rhoi cyfle i artistiaid ryngweithio â darnau dethol o Amgueddfa Cymru.

Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau Arlunydd Preswyl pellach ar hyn o bryd. Am wybodaeth bellach, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01437 720392.

Yr Ysgogiad Iwtopaidd gan Ben Lloyd

Dydd Sadwrn 15 Medi i ddydd Sul 20 Hydref 2024

Mae’r prosiect Yr Ysgogiad Iwtopaidd yn credu bod iwtopia yma ac yn awr. Mae’r iwtopia hwnnw’n gyflwr meddwl ac yn gyraeddadwy trwy weithredoedd creadigol sy’n tynnu’r artist o safbwynt llinellol amser.

Mae’r artistiaid cydweithredol Dorry Spikes, Danny May, a Ben Lloyd wedi creu gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa hon ar dir yn nyffryn Tyddewi gan ddefnyddio fersiwn wedi’i ddiweddaru o en plein air i ddal y profiadau seicolegol, seicig a ffisiolegol o ailgysylltu â’r dirwedd naturiol. Er mwyn helpu i hwyluso hyn, mae Ben Lloyd wedi adeiladu Gorsafoedd Arbrofol i alluogi artistiaid i ymgysylltu â byd natur a’u dychymyg eu hunain.

Darganfyddwch mwy am Oriel y Parc