Pwyllgor Ieuenctid

Llywio’r dyfodol

Mae Pwyllgor Ieuenctid y Parc Cenedlaethol yn grŵp o bobl ifanc angerddol ac o’r un anian rhwng 14 a 25 oed o bob cwr o Sir Benfro. Maen nhw’n dymuno gwneud gwahaniaeth i’w hamgylchedd, i’w cymunedau, i gynyddu lleisiau pobl ifanc a lledaenu’r gair.

Sefydlwyd y pwyllgor yn ystod gwanwyn 2020 a’i nod yw gwneud newid cadarnhaol, boed hynny drwy weithio gyda chynghorau lleol neu ymgymryd â phrosiectau i godi ymwybyddiaeth o faterion byd-eang.

Rydyn ni fel arfer yn cwrdd bob mis ar nos Fawrth (yn amlach ac ar-lein dros y cyfnod clo), yn aml gyda gwesteion diddorol, lle mae’r pwyllgor yn trafod materion ac yn cynllunio prosiectau yn unol â nodau’r grŵp. Mae’r Pwyllgor Ieuenctid yn cael ei arwain gan bobl ifanc a phobl ifanc yw’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

“Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl ifanc o bob rhan o Ewrop i greu Maniffesto Ieuenctid Europarc fel canllaw ar gyfer gweithredu i wella BYW, Dysgu a GWEITHIO mewn llefydd fel Sir Benfro, ac rydyn ni bellach wedi dewis ein blaenoriaethau – y pethau y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw fwyaf – y gellir eu cymhwyso’n genedlaethol ac yn ein cymunedau lleol.”

Ein blaenoriaethau ar hyn o bryd yw:

  1. Creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am eu treftadaeth naturiol a diwylliannol leol
  2. Datblygu partneriaethau rhwng ysgolion a busnesau lleol i gynnig swyddi i bobl ifanc
  3. Annog teithio llesol – beicio a cherdded i helpu iechyd a lles a gwrthbwyso newid yn yr hinsawdd
  4. Gwella cysylltiadau’r gymuned â Phobl Ifanc – rydyn ni wedi bod yn gweithio i gysylltu pobl ifanc a Chynghorau Tref / Cymuned
  5. Creu llwyfan/rhaglen o ddigwyddiadau i helpu pobl ifanc i rannu a chysylltu
  6. Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r newid yn yr hinsawdd a chyfrannu at gamau gweithredu i fynd i’r afael â hynny
  7. Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o golli bioamrywiaeth/natur a chyfrannu at adfer hynny
  8. Helpu mwy o bobl ifanc i fwynhau manteision iechyd a lles gweithgarwch yn yr awyr agored a gwirfoddoli.