Oherwydd y sefyllfa bresennol mae angen gwneud nifer o newidiadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus yn Sir Benfro.
Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld y wybodaeth ac amserlenni bysiau diweddaraf.
Fflecsi Sir Benfro
Mae Fflecsi Sir Benfro yn wasanaeth trafnidiaeth newydd ar alw sy’n gweithredu yng Ngogledd Orllewin Sir Benfro.
Mae gwasanaethau yn cynnig gwahanol deithiau bod dydd i sicrhau bod pawb yn yr ardal yn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n rhaid archebu teithiau ymlaen llaw.
Ewch i wefan Fflecsi Sir Benfro i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Gwasanaethau Bysiau Arfordir Penfro yn wasanaethau bws lleol sy’n teithio ar hyd yr arfordir, saith niwrnod yr wythnos, yn ystod yr haf, gan ddarparu mynediad at deithiau cerdded, traethau, teithiau cychod, pentrefi lleol ac atyniadau.
Maen nhw’n helpu pobl leol ac ymwelwyr i gyrraedd yr arfordir heb orfod defnyddio’u car. Waeth beth yw eich diddordeb, mae gwasanaethau bysiau’r arfordir yn berffaith i chi.
Fe allwch ddefnyddio Bysiau’r Arfordir ar gyfer siwrneiau at eich cyrchfan ac yn ôl, neu ddefnyddio’r bws ar gyfer eich siwrnai allan ac yna cerdded yn ôl at y man ble y dechreuoch chi’n siwrnai. Mae hyn yn eich galluogi chi i gerdded Llwybr yr Arfordir i un cyfeiriad heb orfod mynd yn ôl yr un ffordd.
Mae’n hawdd dal y bws yn Sir Benfro. Mae holl Fysiau’r Arfordir yn gweithredu ar sail ‘Bodio a Theithio’ mewn ardaloedd gwledig, felly’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi arwydd i yrrwr y bws i ddangos eich bod am iddo stopio.
Gellir casglu neu ollwng teithwyr mewn unrhyw fan ar hyd llwybr y bysiau, os ydyw’n ddiogel gwneud hynny.

Pryd maen nhw’n rhedeg?
Oherwydd y sefyllfa bresennol mae angen gwneud nifer o newidiadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus yn Sir Benfro. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro.
Atebir Cwestiynau Cyffredin am y Bysiau Arfordirol ar wefan Cyngor Sir Penfro.