Gwarchod y Parc

Am nifer o flynyddoedd mae'r prif broblemau sy'n wynebu arfordir Sir Benfro wedi bod yn y ddau begwn o amaethu dwys ar y naill law ac esgeulustod ar y llall. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon yn effeithiol teimlwyd bod angen menter leol i ategu’r olygfa amaeth-amgylchedd cenedlaethol i ‘lenwi’r bylchau’.

Gwarchod y Godiroedd – y dyddiau cynnar

Yn 1999 derbyniodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyllid gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer prosiect tair blynedd o’r enw Gwarchod y Godiroedd.

Sefydlwyd y prosiect i fynd i’r afael â’r lleihad mewn arferion ffermio traddodiadol ar yr arfordir (pori’n bennaf), a’r lleihad o ganlyniad i hynny mewn bywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol ar yr arfordir.

Roedd hyn yn cynnwys rhosydd arfordirol a glaswelltir morol sy’n doreithiog o flodau, a llawer o rywogaethau sy’n dibynnu ar y cynefinoedd hyn, yn enwedig y frân goesgoch brin y mae Sir Benfro’n un o’i chadarnleoedd.

Cafodd y prosiect ei groesawu a’i ddatblygu’n raddol er mwyn diwallu anghenion perchnogion tir a bywyd gwyllt ar yr arfordir.

Gwarchod y Parc – y prosiect heddiw

Gwelsom y gellid cymhwyso’r gwersi a ddysgwyd gennym wrth geisio rheoli’r arfordir i gynefinoedd eraill, ac i rannau eraill o’r Parc Cenedlaethol. Felly, pan ddaeth y cynllun gwreiddiol i ben yn 2002, cafodd ei roi ar waith fesul cam mewn ardaloedd eraill – y tro hwn dan y teitl Gwarchod y Parc.

Mae tanbori yn broblem fawr i lawer o gynefinoedd heddiw, ond yn ychwanegol at hyn, ac ym mhen arall y sbectrwm, mae angen adfer tir sydd wedi cael ei reoli’n ddwys. Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r ddau fater hyn – a materion eraill sydd yn y canol.

Erbyn hyn mae’r cynllun yn derbyn arian craidd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gydnabod pwysigrwydd y cynllun er mwyn cyflawni prif bwrpas yr Awdurdod, sef gwarchod a gwella ei harddwch naturiol, ei fywyd gwyllt a’i dreftadaeth ddiwylliannol.

Ysgrifennwyd llyfryn 15 mlynedd o Gwarchod y Parc yn 2019 i grynhoi’r hyn rydym wedi’i ddysgu yn ystod 15 mlynedd o’r cynllun ac i ddathlu rhai o’i lwyddiannau.

 

Map Stori Gwarchod y Parc

Cyngor pellach ar reoli tir

Mae gennym raglen dreigl o gyngor, arweiniad a chymorth ymarferol ar gyfer rheoli tir mewn ffordd gynaliadwy, a hynny ar 220+ safle sy’n cwmpasu 2500+ hectar ers i’r cynllun ddechrau. Mae’r cyngor hwn, a’r canllawiau, yn y taflenni uchod, ‘Help ar gyfer bywyd gwyllt ar eich tir’, sydd ar gael i’w lawrlwytho.

Ein nod yw ailosod y rhwydwaith o goridorau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, a rheoli ac ehangu’r cynefinoedd bywyd gwyllt allweddol sy’n creu cylchrediad cefn gwlad. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle i rywogaethau sefydlu poblogaethau mwy cynaliadwy a mwy o faint, ac yn helpu creu rhai newydd.

Y syniad, felly, yw optimeiddio’r amodau ar gyfer bywyd gwyllt; sut bynnag, ble bynnag a phryd bynnag y gallwn!

More on Conservation Land Management in the National Park