Jac y neidiwr

(impatiens glandulifera)

Llysieuyn blynyddol yw Jac y neidiwr (impatiens glandulifera) a ddaeth i’r DU yn 1839 o ogledd yr India.

Mae’n rhywogaeth estron oresgynnol sydd wedi ymledu i bob rhan o’r DU. Gellir ei weld ar lannau afonydd, tir gwastraff a mannau llaith. Gall hefyd ffynnu mewn sawl cynefin arall.

Does dim angen llawer o olau ar Jac y neidiwr, ac mae’n tagu llystyfiant arall gan drechu planhigion brodorol a difrodi cynefinoedd.

Sut blanhigyn ydyw?

Mae’r egin blanhigion yn ymddangos ym mis Mawrth, ac gall dyfu gymaint â 3 metr o ucher mewn un tymor. Mae’r dail yn wyrdd tywyll gyda gwythien ganol goch. Mae eu hymylon yn ddanheddog, a gallant dyfu hyd at 15 cm o hyd. Mae’r coesynnau yn binc ac yn wag gyda changhennau ochr sy’n tyfu o gymalau yn y prif goesyn. Bydd blodau porffor, pinc neu wyn ar ffurf helmed yn dechrau ymddangos ym mis Mehefin, a byddan nhw’n parhau tan fis Hydref.

Sut mae’n ymledu?

Ar ôl y blodau, mae’r planhigyn yn cynhyrchu codau hadau, dau i dri cm o hyd, a gall fod hyd at 16 hedyn ym mhob coden. Gall un planhigyn gynhyrchu tua 800 o hadau. Os caiff y prif goesyn ei dorri uwchben y nod cyntaf, bydd y planhigyn yn tyfu ar ffurf candelabra, gan gynhyrchu nifer o bennau blodau a bydd y rheini wedyn yn cynhyrchu hyd yn oed ragor o hadau.

Himalyan Balsam

Gwasgariad

Mae’r codau hadau aeddfed yn ‘ffrwydro’ os bydd rhywbeth yn tarfu arnyn nhw ddiwedd mis Gorffennaf neu fis Awst, a bydd yr hadau gwyn, brown a du yn cael eu saethu hyd at saith metr (22 troedfedd) i ffwrdd. Gelwir hyn yn ‘indehiscence’.

Os bydd yr hadau yn sefydlu o gwmpas afonydd, bydd yr hadau yn cael eu cludo gan y dŵr hyd yn oed ymhellach, gan olygu y gall y planhigyn ymledu i fannau newydd.

Mae pobl wedi dosbarthu’r planhigyn yn eang yn y gorffennol drwy roi hadau i’w ffrindiau, neu drwy gario’r hadau yn ddiarwybod iddynt, ee ar wadnau eu hesgidiau.

Himalayan Balsam in the River Gwaun, Pembrokeshire, Wales, Uk

Dulliau o’i reoli

Credir bod hadau Jac y neidiwr yn aros yn hyfyw am hyd at ddwy flynedd. Mewn mannau lle mae’r planhigyn yn tyfu’n ddwys, mae modd ei reoli’n effeithiol drwy strimio neu dorri, ond rhaid torri pob coesyn yn llwyr o dan y nod (neu’r cymal) isaf. Os na wneir hynny, bydd y planhigyn yn aildyfu ar ffurf candelabra, gan gynhyrchu hyd yn oed ragor o hadau.

Mae eu tynnu o’r ddaear neu eu diwreiddio hefyd yn effeithiol iawn. Rhaid bod yn ofalus i ddiwreiddio pob planhigyn yn llwyr, oherwydd gall planhigion sydd â choesynnau sydd wedi torri, ond sy’n dal yn y ddaear, aildyfu a chynhyrchu hadau. Pan fyddwch wedi torri’r planhigion neu wedi eu tynnu o’r ddaear, gallwch eu gadael i bydru ar y safle, ond rhaid gwneud hynny mewn man agored a sych. Gallwch eu compostio hefyd.

Rhaid gwneud y gwaith rheoli cyn i’r codau hadau aeddfedu. Gweler ein taflen Jac y neidiwr isod ar gyfer yr arferion gorau.