Polisi Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Nid oes gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddyletswydd statudol i reoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn y Parc Cenedlaethol. Mae rhan yr Awdurdod yn y broses o reoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn ymwneud â’i swyddogaeth fel tirfeddiannwr a’i gyfrifoldebau cynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus. Sylwch, dim ond 2% o arwynebedd tir y Parc Cenedlaethol sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwneud ei orau i reoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol ar ei dirddaliadau, i sicrhau bod arwyneb hawliau tramwy cyhoeddus yn glir o lystyfiant ac nad oes Rhywogaethau Estron Goresgynnol yno pan fo hynny’n gynaliadwy. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn hwyluso trafodaethau rhwng pawb â diddordeb pan fo hynny’n berthnasol.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod bygythiad Rhywogaethau Estron Goresgynnol i dirwedd ehangach Sir Benfro, ac mae wrthi’n rhoi prosiect peilot dalgylch ar waith (Pwyth Mewn Pryd) yng Nghwm Gwaun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ychydig iawn y mae Awdurdod y Parc yn gallu rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol y tu hwnt i’w waith rheoli asedau a’r prosiect peilot hwn, ac mae’n dibynnu’n benodol ar flaenoriaethau o ran budd cadwraeth natur, budd amgylchedd hanesyddol, mynediad/hawliau tramwy cyhoeddus, neu os yw’r rhywogaeth yn niweidiol i iechyd pobl a/neu os yw gweithredu yn y tymor byr yn strategol ac yn gynaliadwy.

Mae blaenoriaeth yr Awdurdod dros Rywogaethau Estron Goresgynnol yn ymwneud â blaenoriaethau Cymru/Sir Benfro dros reoli rhywogaethau yn ogystal â bod yn wyliadwrus am rywogaethau cenedlaethol a rhanbarthol y ceir rhybuddion yn eu cylch gan Ysgrifenyddiaeth y Rhywogaethau Estron a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae modd i gydlynydd prosiect Pwyth Mewn Pryd Awdurdod y Parc roi cyngor, ond mae’n pwysleisio mai siarad, cydweithio ac ymrwymiad sy’n bwysig i bawb sy’n gysylltiedig â Rhywogaethau Estron Goresgynnol.

Cysylltu â Ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awyddus i glywed gan grwpiau cymunedol a thirfeddianwyr sydd â diddordeb, lle byddai modd cael dull cydlynus o gydweithio. Anfonwch e-bost at Matthew Tebbutt i gael rhagor o wybodaeth.