Is-ddeddfau

Mae’r Is-ddeddfau hyn yn berthnasol i dir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Sylwer, mae hyn tua 2% o’r Parc Cenedlaethol cyfan. Mae Is-ddeddfau’r Cyngor Sir yn ymdrin ag ymddygiad cŵn ar draethau a mannau agored, a’r defnydd o gychod pŵer ar ddyfroedd mewndirol.

Efallai y bydd digwyddiadau angen trwydded gan Cyngor Sir Penfro os ydyn nhw’n cynnwys gweithgareddau penodol e.e. cerddoriaeth neu werthu alcohol.

TANAU – Ni ddylai unrhyw un gynnau unrhyw dân, na gosod na thaflu na gollwng unrhyw fatsien wedi ei chynnau nac unrhyw sylwedd neu unrhyw beth wedi ei gynnau, mewn porfa, rhedyn, grug, perthi neu goed ar dir mynediad, neu gerllaw, ble mae’n debygol o achosi difrod trwy dân i unrhyw beth sy’n tyfu ar y tir mynediad.

CERBYDAU SY’N CAEL EU GYRRU’N FECANYDDOL – Ni ddylai unrhyw berson reidio na gyrru unrhyw gerbyd sy’n cael ei yrru’n fecanyddol dros y tir mynediad, heb awdurdod cyfreithlon, ac eithrio ar ran o’r tir mynediad a osodwyd ac a glustnodwyd er mwyn parcio cerbydau.

CŴN – Ni ddylai unrhyw un arwain unrhyw gi sy’n eiddo iddo, neu yn ei ofal, i mewn i dir mynediad, a’i ganatau i aros mewn tir mynediad, na goddef hynny, onid yw’r ci dan reolaeth iawn, ac yn parhau i fod o dan reolaeth iawn, a’i fod yn cael ei atal, i bob pwrpas, rhag cythruddo unrhyw berson a rhag poeni neu darfu ar unrhyw anifail neu aderyn.

HELA A SAETHU – Ni ddylai unrhyw berson, heb awdurdod cyfreithlon, ladd unrhyw anifail neu aderyn, eu cymryd, aflonyddu arnynt na tharfu’n fwriadol arnynt, na chymryd na difrodi unrhyw ŵy neu nyth na hela, saethu na gosod maglau neu rwydau na gosod croglathau.

CARIO DRYLLIAU AYYB. – Ni ddylai unrhyw berson, heb awdurdod cyfreithlon, ddod â dryll, injan, teclyn na chyfarpar a ddefnyddir i saethu, ar dir mynediad, na chael unrhyw wrthrych o’r fath yn eu meddiant ar dir mynediad.

LLYGREDD DŴR – Ni ddylai unrhyw berson faeddu na llygru unrhyw lôn, pwll, nant na dŵr o fath arall, yn fwriadol, yn ddiofal neu mewn ffordd esgeulus.

Dog being walked on a lead on Freshwater East Beach, Pembrokeshire, Wales, UK

RHWYSTRO CYRSIAU DŴR – Ni ddylai unrhyw berson rwystro llif unrhyw ddraen na chwrs dŵr, nac agor, cau neu ymyrryd mewn ffordd arall ag unrhyw lifddor na chyfarpar tebyg arall.

DIFROD I GLODDIAU A WALIAU – Ni ddylai unrhyw berson dorri trwy unrhyw glawdd na difrodi neu ddinistrio unrhyw glawdd, ffens, wal neu giât, yn ddiofal neu’n esgeulus.

GWYDR WEDI’I DORRI, AYYB. – Ni ddylai unrhyw berson daflu unrhyw wydr, tsieina, llestri na gwrthrychau metel (rhai cyfain na rhai wedi eu torri), na’u gosod na’u gadael yn fwriadol, ar dir mynediad, mewn lle ble maent yn debygol o anafu unrhyw berson neu anifail ar y tir mynediad.

MARCHOGAETH A GYRRU ANIFEILIAID – Ni ddylai unrhyw berson dorri unrhyw geffyl neu anifail arall i mewn ar y tir mynediad, na marchogaeth, reidio na gyrru unrhyw geffyl neu anifail arall mewn ras, ble byddai’n beryglus neu’n cythruddo unrhyw berson sy’n defnyddio’r tir mynediad.

HYSBYSEBION AC YSGRIFENNU NEU GERFIO ENWAU, AYYB. – Ni ddylai unrhyw berson osod unrhyw hysbyseb, mesur, hysbyslen na hysbysiad ar unrhyw adeilad, wal, ffens, giât, drws, piler, postyn, coeden, craig na charreg, ar dir mynediad, neu yn ymyl tir mynediad, heb awdurdod cyfreithlon, nac achosi i’r fath wrthrych gael ei osod yn y fath le, ac ni ddylai unrhyw berson ddifwyno unrhyw adeilad, wal, ffens, giât, drws, piler, postyn, coeden, craig na charreg ar dir o’r fath, trwy dorri neu ysgrifennu neu farcio unrhyw eiriau neu farciau arnynt.

Cars parking on the beach at Newport Sands in the Pembrokeshire Coast National Park

CYFARFODYDD CYHOEDDUS – Ni ddylai unrhyw berson gynnal unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus, na chyflwyno unrhyw anerchiad cyhoeddus, ar dir mynediad, heb ganiatâd perchennog y tir mynediad.

RHOLIO CERRIG – Ni ddylai unrhyw berson daflu, rholio na rhyddhau unrhyw garreg neu daflegryn arall, yn fwriadol, yn ddiofal neu’n esgeulus, mewn ffordd a fydd yn achosi, neu yn debygol o achosi, anaf, perygl neu flinder i unrhyw berson neu anafu, peryglu neu aflonyddu ar unrhyw anifail.

SETIAU RADIO NEU DECLYNNAU SWNLLYD ERAILL – Ni ddylai unrhyw berson wneud unrhyw sŵn, nac achosi na chaniatáu i unrhyw sŵn gael ei wneud, sydd mor uchel ac mor barhaus neu ailadroddus ei fod yn rhoi achos rhesymol dros gythruddo pobl eraill ar y tir mynediad, trwy weithredu unrhyw set radio ddiwifr, gramoffon, chwyddseinydd neu declyn tebyg, neu achosi neu ganiatáu ei weithrediad ar y tir mynediad.

RHWYSTRO’R PARCMYN – Ni ddylai unrhyw berson rwystro unrhyw Barcmon sy’n gwneud gwaith i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro rhag cyflawni ei (d)dyletswyddau.