Cyllid ar gyfer Pwynt Gwefru Cerbydau Trydan

Mae arian ar gael gan APCAP oddi wrth y Bartneriaeth Parciau Cenedlaethol a BMW i osod pwynt gwefru cerbydau trydan i wasanaethu cymuned leol o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, rydym yn galw ar grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw fyddai’n dymuno cael pwynt gwefru cerbydau trydan, i gysylltu â ni

Yn ogystal â darparu cyfleuster lleol defnyddiol, gall codi tâl am wefru ceir greu swm bach o refeniw i’r grŵp cymunedol llwyddiannus. Bydd angen i’r grŵp cymunedol llwyddiannus gael lle parcio ceir lle gellir gosod y pwynt gwefru (“Pod Point”) a’r gallu i reoli platfform ar-lein (“ôl-brosesydd”) y gwefrydd.

Daw’r cyllid hwn drwy bartneriaeth rhwng y Parciau Cenedlaethol a BMW UK & Ireland ac felly bydd yn ofynnol i’r sefydliad sy’n cael budd:

    1. Gytuno i frandio’r bartneriaeth ar y pyst gwefru am gyfnod o 3 blynedd.
    2. Cytuno i adrodd bob chwarter ar y defnydd a wnaed o’r pyst am gyfnod o 3 blynedd o’u gosod.
    3. Derbyn y bydd negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu dosbarthu o gwmpas y pwyntiau gwefru hyn, a gofynnir i’r sefydliadau sy’n cael budd rannu os yn briodol.
    4. Llofnodi cytundeb trosglwyddo adeg gosod y gwefrydd.
    5. Sylwer y bydd platfform pod gwefru yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio yn ystod tymor y bartneriaeth BMW/PC ac yn dilyn hynny codir tâl.

Costau cysylltiedig:

Gwerthiant Cychwynnol Blwyddyn 2 Blwyddyn 3 Blwyddyn 4+
Gwarant £0 £0 £0 £150 y soced (yn cynnwys pob galwad allan, rhannau newydd, atgyweiriadau a chynnal a chadw o bell am 12 mis)
Cynnal a Chadw Arferol £0 £0 £0
Cynnal a Chadw Ymatebol £0 £0 £0
Data a System Swyddfa Gefn 3 blynedd o ddata a swyddfa gefn am £60 y soced y flwyddyn £0 £0 £60 y soced y flwyddyn
Tariff Trafodion Talu Wrth Gefn 1c/kWh 1c/kWh 1c/kWh 1c/kWh

Byddai’r sefydliad llwyddiannus yn talu £60 i ddechrau am fynediad i’r system swyddfa gefn. O’r cychwyn cyntaf, byddai Pod Point yn cymryd 1c o bob kWh a ddefnyddir i wefru, fodd bynnag caniateir i chi osod y tâl gwefru felly gallech gymryd hyn i ystyriaeth.

Ar ôl 3 blynedd y bartneriaeth, byddech yn talu £60 y flwyddyn am y system swyddfa gefn, a £150 y flwyddyn am y warant a’r gwaith cynnal a chadw. Yn ogystal â hyn, byddai 1c o bob kWh a ddefnyddir i wefru yn parhau i fynd i Pod Point.

Os hoffech chi weld y Telerau ac Amodau llawn cysylltwch â Hannah Boyd, Swyddog Datgarboneiddio (manylion isod)

Rydym yn annog pob sefydliad sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol i wneud cais os dymunwch i bwynt gwefru cerbydau trydan gael ei osod yn eich lleoliad.

I wneud cais am y cyfle hwn, a fyddech gystal â lawrlwytho a llenwi’r cwestiynau a’u hanfon at hannahgb@arfordirpenfro.org.uk erbyn 12 canol dydd, dydd Llun 4 Rhagfyr 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu.

Dyddiad Cau

12 canol dydd Dydd Llun 18 Rhagfyr 2023