Offer Symudedd – Diogelu Data

Sut mae’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu ar y system archebu offer symudedd ac offer pob tir yn cael ei defnyddio.

Dim ond am y rhesymau a ddangosir isod  y mae’r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen yn cael ei chasglu, ei storio a’i defnyddio.

Caiff ffurflenni eu storio’n ddiogel am saith mlynedd gan yr Awdurdod ar y sail gyfreithiol bod angen Contract a Buddiant Dilys os ceir hawliad cyfreithiol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

Ebost: SDD@arfordirpenfro.org.uk

Ffôn: 01646 624800

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro, SA72 6DY

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi’i gofrestru yn Rheolwr Data gyda’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth. Rhif cofrestru: Z6910336.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cadw gwybodaeth yn ddiogel, ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/preifatrwydd/

 

Ar gyfer beth mae’r wybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio: Ein rhesymau Ein buddiannau dilys
Gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i weinyddu’r gwasanaeth llogi glan môr Contract
Buddiant Dilys
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Tasg Gyhoeddus
Gwneud yn siŵr bod y sawl sy’n benthyca yn ymwybodol o’r canllawiau diogelwch sylfaenol wrth ddefnyddio’r offer symudedd.
(Yn amodol ar roi cydsyniad penodol)

Gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i werthuso’r gwasanaeth llogi glan môr

Gwerthuso
Cynllunio
Cefnogi’r gwasanaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu anghenion yn y ffordd orau.