Taith fynediad hwylus: 1.1 milltir (1.8 km).
Cymeriad: golygfeydd arfordirol gwych, llwybr ag arwyneb, prin yw’r graddiannau.
Toiledau: nid oes toiledau yn y maes parcio. Toiledau agosaf yn Bosherston (1 filltir).
Sylwer: Mae’r daith hon ar faes tanio Castellmartin. Mae ar gau pan fydd y maes yn cael ei ddefnyddio. Cyhoeddir rhybuddion o danio byw mewn papurau newydd ac ar wefan Gov.uk.
Sut i gyrraedd yno:
Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwibfws yr Arfordir (mynediad i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro, 6 milltir i’r de o Sir Benfro. Dewch ar heol yr B4319 ac isffordd leol. Maes parcio yng Nghapel Sant Gofan.
Mae’r llwybr o’r maes parcio i hen orsaf gwylwyr y glannau wedi cael arwyneb ac yn cynnig taith gweddol wastad. Mae’n rhedeg tua’r tir o ymyl y clogwyn.
Mae’r golygfeydd ar hyd yr arfordir yn wych. Mae’r clogwyni yma’n bwysig i adar y môr, gan gynnwys heligogod, gweilch y penwaig a gwylanod coesddu.
Mae’r gweundir arfordirol a’r glaswelltir sydd heb ei wella’n gynefin gwych i’r frân goesgoch a hefyd yn cynnal llawer o adar, fel tinwynion, ehedyddion, pibyddion y waun, creciau penddu’r eithin a mathau amrywiol o delor.
Mae’r clogwyni hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddringo: nid yw’n anarferol gweld pennau’n pipo i fyny’n sydyn uwch ymyl y clogwyn.
Yn agos at y maes parcio, ond i lawr set o risiau, mae yna gapel wedi’i gysegru i Sant Gofan, abad Gwyddelig o’r chweched ganrif.
Yn ôl y chwedl, fe ddihangodd rhag morladron trwy lanio yma a chuddio mewn hollt yn y creigiau a agorodd yn wyrthiol i’w guddio.
Dywedir nad ydych yn gallu cyfri’r un nifer o risiau’n mynd i lawr ag yr ydych yn eu cyfri’n dod nôl i fyny.
Cyfarwyddiadau
Gadewch y maes parcio ar y llwybr tarmac drws nesaf i’r baeau parcio ar gyfer yr anabl a throwch i’r chwith arno i Lwybr yr Arfordir.
Dilynwch y llwybr tarmac llydan hwn tuag at giât drws nesaf i rid gwartheg. Mae yna raddiant o 1:18 am 10 metr, ac yna graddiant o 1:12 i 1:10 am 7 metr i fyny’r tyle cyn cyrraedd y giât.
Yn fuan wedi pasio triwyr giât, mae yna raddiant o 1:15 am 10 metr i fyny’r tyle. Arhoswch ar y llwybr tarmac ac ewch yn syth ymlaen wrth y postyn pwyntio.
Ychydig ar ôl y postyn pwyntio mae yna raddiant croes o 1:36 i’r chwith am tua 90 metr. Mae’r llwybr yn dod i ben wrth hen orsaf Gwylwyr y Glannau, ble mae yna raddiant o 1:12 i fyny’r tyle am 10 metr.
Ewch yn ôl yr un ffordd at y maes parcio.