Stack Rocks i Sant Gofan

Taith Antur

Taith antur: 6.3 milltir (10.1 km).
Cymeriad: golygfeydd hynod o’r môr, y clogwyni a’r dirwedd ymhellach tua’r tir.  Trac o gerrig, gweddol wastad.
Toiledau: nid oes toiledau yn y maes parcio.  Toiledau agosaf yn Bosherston (1 filltir o ben pellaf y daith).
Sylwer: Mae’r daith hon ar faes tanio Castellmartin. Mae ar gau pan fydd y maes yn cael ei ddefnyddio. Cyhoeddir rhybuddion o danio byw mewn papurau newydd lleol ac ar wefan Gov.uk.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwibfws yr Arfordir (mynediad i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro, 7.5 milltir i’r De Orllewin o Benfro.  Dewch ar heol y B4319 ac isffordd leol. Maes parcio yn Stack Rocks.

Mae’r daith yn dilyn trac wedi’i orchuddio â phorfa neu drac o gerrig, ar draws Maes Castellmartin.  Mae’r trac o gerrig yn gallu bod yn anwastad, ond ar y rhan fwyaf ohono, mae yna ymylon o borfa fer, ac felly mae yna arwyneb arall y gallwch ei gerdded.

Defnyddiwyd y maes gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, fel maes tanio, ers y 1940au, ac nid yw pobl wedi cael rhyw lawer o ddylanwad ar yr ardal hon yn ne Sir Benfro, ers hynny.

Mae’r diffyg ymyrraeth hwn wedi cynhyrchu amrywiaeth gyfoethog, heb ei difetha, o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae Stack Rocks yn ddau biler calchfaen sydd ar wahân. Yn y Gwanwyn, mae brig y staciau, a’r silffoedd oddi tano, yn frith o heligogod a gweilch y penwaig, ac mae adar drycin y graig a gwylanod coesddu’n nythu ar y clogwyni ochr yn ochr â gwylanod y penwaig a gwylanod cefnddu.

Wrth y maes parcio, ond nid yn rhan o’r daith hon, mae’r Bont Werdd, sef arch naturiol a gerfiwyd gan y tonnau. Ar ben arall y daith,  ond i lawr set o risiau, mae yna gapel wedi’i gysegru i Sant Gofan, abad Gwyddelig o’r chweched ganrif.

Yn ôl y chwedl, fe ddihangodd rhag morladron trwy lanio yma a chuddio mewn hollt yn y creigiau a agorodd yn wyrthiol i’w guddio.

Dywedir nad ydych yn gallu cyfri’r un nifer o risiau’n mynd i lawr ag yr ydych yn eu cyfri’n dod nôl i fyny.

Cyfarwyddiadau

Gadewch y maes parcio a cherddwch tuag at y bwrdd dehongli, yna trowch i’r chwith tuag at giât wrth hysbysfwrdd (ramp byr iawn i lawr i’r giât).

Ewch drwy’r giât hon a dilynwch Llwybr yr Arfordir, sy’n amlwg, yn syth o’ch blaen. Dilynwch y llwybr ar y borfa a chadwch i’r chwith i’r Fryngaer o’r Oes Haearn, sydd a ffens o’i hamgylch, wrth i’r llwybr adael ymyl y clogwyn (anelwch am y trac llydan o’ch blaen).

Mae yna adran 3 metr fer yn y gaer gyda graddiant o 1:10.  Wedi cyrraedd y trac llydan ar ochr arall y gaer, cadwch i’r dde a’i ddilyn.

Ar ôl mynd trwy giât mae’r trac yn troi i’r dde ac yna’n fforchio.  Arhoswch ar y trac ar y chwith ble mae yna raddiant o 1:12 i 1:9 i lawr am 7 metr.

Parhewch i ddilyn y trac hyd nes cyrraedd maes parcio Sant Gofan.

Ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SR925946