Parrog Trefdraeth i’r Cwm

Taith Fynediad Hwylus

Taith fynediad hwylus: 0.8 milltir (1.3 km).
Cymeriad: Taith hamddenol, ar lwybrau ag arwyneb yn bennaf, ar hyd Bae Trefdraeth. Golygfeydd gwych o’r aber a’r arfordir.
Toiledau: yn y maes parcio y Parrog.
Sylwer: gellir ond cerdded y daith hon pan fydd y llanw’n isel, felly holwch am amserlen y llanw cyn mentro allan

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: (pob un yn hygyrch i gadeiriau olwyn). Bws gwasanaeth 412 (Hwlffordd i Aberteifi). Roced Poppit. Bws Cerddwyr Draig Werdd y Preseli (tymhorol: 0800 783 1584).
Eich trafnidiaeth eich hun: Gogledd Sir Benfro, dechreuwch y daith o’r maes parcio yng nghanol y dref yn Nhrefdraeth.  (Tâl yn ystod y prif dymor).  Dewch ar gefnffordd yr A487.

Mae’r daith hon yn dilyn ymyl deheuol Bae Trefdraeth, o Drefdraeth Parrog allan tua’r môr. Mae yna olygfeydd gwych ar draws Traeth Trefdraeth at y clogwyni ar ochr arall y bae.

Roedd Trefdraeth Parrog yn arfer bod yn borthladd prysur. Adeiladwyd dros 50 o gychod hwylio ar hyd aber y Nyfer, ac roedd gan fasnachwyr lleol gyfranddaliadau mewn dysenni o gychod a fasnachai ar hyd Môr Iwerddon a thu hwnt.

Cadwyd un o’r hen stordai ar y Parrog fel cartref clwb cychod y dref.

Cyfarwyddiadau

Trowch i’r dde allan o’r maes parcio ac ewch i fyny’r ramp ar y dde (graddiant o 1:8 am 7 metr) arno i’r cawsai ac yna i lawr (graddiant o hyd at 1:8 am 6 metr) arno i lwybr palmantog.

Dilynwch y llwybr o flaen y tai. Mae yna raddiant croes byr o 1:10 ble mae’r llwybr yn mynd i’r dde.

Pan fydd y llwybr yn cyrraedd Rock House (graddiant o hyd at 1:7 am 7 metr) trowch i’r dde ac yna i’r chwith arno i’r blaendraeth ac ymunwch â’r llwybr am ychydig bach.

Mae’r daith yn mynd yn ôl at y blaendraeth eto, ac er bod y tywod yn gadarn mae yna raddiant croes o hyd at 1:15 (gan ddibynnu ar y tymor) am 23 metr.

Mae yna ramp byr sy’n 1:8 i fyny o’r blaendraeth am 2 metr, ac yna mae’r llwybr yn mynd i fyny’r tyle’n raddol (graddiant o 1:15 am 30 metr ac yna 1:8 am 20 metr ac yn olaf 1:15 am 23 metr) ac yna mae’n dod yn wastad.

Parhewch i ddilyn llwybr amlwg Llwybr yr Arfordir.  Ar ôl yr ail sedd mae’r llwybr yn mynd i lawr y tyle gyda dwy adran sy’n 1:6: y cyntaf am 14 metr a’r ail am 5 metr.  Ar ôl hyn, mae’r llwybr yn mynd i fyny’r tyle (47 metr ar raddiant o 1:10 i 1:7, ac yna 10 metr sy’n 1:15 ).

Mae’r llwybr nawr yn wastad ac yn parhau at ardal eistedd a golygfan.

Ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN051396