Polisi Dychwelyd Eitemau

  • Os bydd eitem yn cael ei dychwelyd gyda derbynneb ddilys o fewn 28 diwrnod ar ôl ei phrynu, fe wnawn ni gyfnewid yr eitem neu roi ad-daliad.
  • Rhaid i’r tagiau a/neu’r pecyn gwreiddiol fod ar yr eitem er mwyn ei chyfnewid neu roi ad-daliad.
  • Ni fyddwn yn cyfnewid nac yn rhoi ad-daliad am eitem nad yw yn ei chyflwr gwreiddiol, sydd wedi gwisgo, ei difrodi neu sydd â darnau coll.
  • Am resymau diogelwch, ni chewch ddychwelyd eitemau bwyd, diod, nwyddau ymolchi na chlustdlysau oni bai fod nam arnynt.
  • Dim ond yn y siop lle cafodd yr eitem ei phrynu bydd modd cyfnewid neu gael ad-daliad.
  • Os caiff eitem ei dychwelyd drwy’r post bydd y cwsmer yn talu am gost y postio oni bai fod nam ar yr eitem. Bydd yn rhaid i ni gael prawf ffotograffig o eitem sydd â nam arni cyn ei derbyn drwy’r post.
  • Does dim modd rhoi ad-daliad am docynnau i ddigwyddiadau.
  • Does dim modd cyfnewid Tocynnau Mynediad Am Ddim na Thalebau Rhodd am arian parod, a dim ond yn unol â thelerau ac amodau pob tocyn/taleb mae modd eu defnyddio.
  • Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.