Gors Fawr

Gors Fawr yw'r unig gylch cerrig cyflawn sydd wedi goroesi yng Nghymru. Mae yna 16 carreg, sy'n amrywio o ran uchder o 0.3 i 1.1m. Dolerit brych yw wyth ohonyn nhw. Tua 120m i ffwrdd mae pâr o feini hirion, sy'n awgrymu y gallai fod yna rodfa ar un adeg. Damcaniaethau eraill yw bod y ddwy garreg hon yn cyfeirio tuag at godiad yr haul a'r lleuad dros grib y Preseli ar ddyddiadau allweddol yn y calendr, megis heuldro'r gaeaf a'r haf.

Gors Fawr landscape

Arolwg

Fel rhan o CUPHAT (Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth), fe wnaeth DAT (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed) arolygu’r safle gan ddefnyddio drôn a chreu model 3D o’r cylch cerrig.

Ymweliadau gan ysgolion lleol

Yn ystod ein prosiect dehongli diweddar, ymwelodd ysgolion lleol â Gors Fawr i archwilio’r safle archeolegol pwysig hwn. Fe wnaeth dwy o’r ysgolion hyd yn oed ddefnyddio eu hymweliadau i gyflwyno sesiynau mathemateg a llywio awyr agored. Dyma ychydig o’r gwaith celf a grewyd gan y plant mewn ymateb i’r safle. [ychwanegu oriel sioe sleidiau o weithiau celf Ysgolion Maenclochog a Bro Preseli]

 

Gwarchod ein treftadaeth

Mae Gors Fawr yn heneb gofrestredig. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei warchod gan y gyfraith, gan ei gwneud yn anghyfreithlon i darfu ar y safle, neu ei newid. Mae’r dirwedd ehangach hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Gallwch helpu i ofalu am y safle archeolegol pwysig hwn. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw aflonyddwch neu ddifrod ar eich ymweliad, riportiwch i Heddlu Dyfed-Powys. Am ragor o wybodaeth am drosedd treftadaeth ewch i Gwarchod Treftadaeth.