Gwersyll Tregynon

Anheddiad hynafol

Tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl adeiladodd cymuned o’r Oes Haearn gaer fechan yn edrych dros lethrau serth Gwm Gwaun.

Artist's impression of Iron Age life

Roedd ffosydd dwfn a chloddiau uchel yn amddiffyn eu tai crynion. Roeddent yn tyfu gwenith, gwenith yr Almaen, haidd, ceirch a ffa. Roeddent yn bugeilio moch, gwartheg a defaid, gan nyddu a gwehyddu gwlân y defaid i wneud dillad. Roedd pren ar gyfer adeiladu a phren ar gyfer gwneud siarcol yn  dod o’r coetiroedd yr oeddent yn eu prysgoedio. Roeddent yn fforio am berlysiau, cnau a ffrwythau gerllaw. Ychydig iawn oedd yn mynd yn wastraff; roedd cyllyll haearn ac offer yn cael eu hogi a’u hatgyweirio. Roedd pobl yr Oes Haearn yn addoli llawer o dduwiau, ac roedd rhai yn dduwiau’r afon. Mae’n bosibl bod yr afon Gwaun ei hun, yn ogystal â rhaeadrau’r dyffryn, yn gysegredig iddynt.

Mae llawer o safleoedd o’r Oes Haearn i’w harchwilio yn Sir Benfro. Gallwch ymweld â Chastell Henllys neu Gymru Hanesyddol i ddarganfod mwy.

Bluebell woods

Bywyd Gwyllt Cwm Gwaun

Roedd tirwedd yr Oes Haearn yn glytwaith agored o goetiroedd, dolydd, corsydd a rhostiroedd yn llawn adar gwyllt, anifeiliaid a thrychfilod. Mae Cwm Gwaun yn arbennig gan fod llawer o’r cynefinoedd hyn wedi goroesi hyd heddiw, sy’n golygu ei fod yn bwysig i rywogaethau sy’n prinhau mewn mannau eraill.

Rhaeadrau a Rhew

Cerfiwyd Cwm Gwaun yn ystod oesoedd iâ’r gorffennol gan ddŵr yn llifo dan bwysau o dan haenau iâ enfawr. Ar ôl yr oes iâ ddiwethaf, a gyrhaeddodd ei hanterth 25,000 i 20,000 o flynyddoedd yn ôl, erydodd dŵr tawdd a oedd yn llifo o lynnoedd rhewlifol mawr y dyffryn, gan ei wneud yn ddyfnach.

Nid oedd nentydd llai fel Tregynon yn dyfnhau eu dyffrynnoedd mor gyflym. Gadawodd hyn ‘grognentydd’ yn uchel uwchben y dyffryn dyfnach islaw. Lle mae dyffryn Tregynon yn cwrdd â chwm Gwaun, mae’r nant yn gorlifo’n ddramatig dros ymyl y clogwyn, gan ffurfio rhaeadr.

Rhaeadr Tregynon yw’r uchaf yn Sir Benfro. Mae mapiau hanesyddol yn awgrymu bod pobl wedi gwneud newidiadau i’r nant yn uwch i fyny’r llethr. Efallai mai dyna pam y lleolir rhaeadr Tregynon ar ochr y dyffryn yn hytrach nag ar flaen y dyffryn.

 

Diogelu ein Treftadaeth

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw aflonyddwch neu ddifrod ar eich ymweliad, riportiwch i Heddlu Dyfed-Powys. Am ragor o wybodaeth am drosedd treftadaeth ewch i Gwarchod Treftadaeth.