Profwch yr Oes Haearn
Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 1pm a 2pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad, am 11.30am a 2.30pm.
Nodir bydd y pentrefwyr oes haearn yn cael cinio rhwng 1pm a 2pm.
Bore tawel Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sul 10am – 12 hanner dydd
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

FAMILY ACTIVITIES
Chwedlau gyda Hedydd Hughes
Dydd Mercher 22 a 29 Gorffennaf, a 5, 12, 19, a 26 Awst. 11.30am-2.30pm

Camwch yn ôl mewn amser a gwrandewch ar y chwedlau sy’n siapio’r tirwedd.
Bydd y storïwr lleol Hedydd Hughes yn rhannu chwedlau Cymreig a straeon o hanes Sir Benfro. Cynhelir y sesiynau wrth ymyl tân yn un on tai crwn o’r Oes Haearn.
Yn addas i bob oed.
Mae tâl mynediad i’r safle yn cynnwys y gweithgaredd hwn. Nid oes angen archebu.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
Chrefftau gyda Kate Evans
Dydd Iau 23 a 30 Gorffennaf, a 6, 13, 20, a 27 Awst. 11.30am-2.30pm

Dewch i fod yn greadigol yr haf hwn gyda’r artist Kate Evans.
Cymerwch ran mewn sesiwn grefft wedi’i hysbrydoli gan natur, y dirwedd a’r gorffennol.
Dyma’ch cyfle i fynd adref gyda “chreadur y goedwig” wedi’i wneud o glai a deunyddiau naturiol.
Cynhelir y sesiynau yn y Pentref. Codir tâl ychwanegol.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
Darganfodwch Archaeoleg
Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf, 10am-5pm

Darganfodwch beth mae’n cymryd i ddod yn archaeolegydd! Darganfodwch sut mae lleoliad yn cael ei ffindio, cloddio a’i ddiogelu. Dalwch atgynyrchiadau a deunydd archaeolegol o’n casgliad ni a dewch i cwrdd a archeolegwr sydd yn gofalu am hanes Sir Benfro a ffeindiwch allan fwy am beth mae’n nhw’n gwneud.
I’r pobl sydd moen fod yn ymarferol, fe fydd yna siawns i’r plant gloddi, a cael tro yn darganfod rhywbeth.
Pris arferol i ddod i mewn, fe fydd yna tâl ychwanegol i rhai gweithgareddau.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
Gweithgareddau’r Dydd – Lughnasadh
Dydd Sadwrn 1 Awst 11am-4.30pm

Mae’r dachreuad o’r cynhaeaf wedi dod, ac mae pobl y fryngaer yn dathlu. Ymunwch a nhw wrth treual gweithgareddau neu gwrando a’r hen chwedlau. Yn yr prynhawn, ar 2.30pm fe fydd yna gyfle i ymuno a’r chwaraeon a dathluadau.
£11 Oedolyn, £9 Plentyn, £35.50 Teulu (2+2 neu 1+3). Pob gweithgaredd yn cael ei cynnwys yn prîs mynediad. Ni yn argymell archebu tocyn.
Cymhwysir Rhyddhad TAW’r Haf wrth dalu ar eitemau cymwys.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
‘Beware your Dreams’ Gyda Meic Llewellyn
Dydd Iau 20 Awst, 1pm

Ymunwch â ni ddydd Iau, 20fed o Awst pan fydd yr awdur lleol Meic Llewellyn yn darllen darnau o’i lyfr newydd, “Beware Your Dreams”.
Mae Beware Your Dreams yn stori gyfoes, sy’n cysylltu’r byd gweladwy â’r anweledig, wedi’i wreiddio mewn myth a wirionedd bywyd ar fferm fach yng Ngorllewin Cymru. Ymunwch â Gwinnie, wrth iddi geisio deall pam y gall hedfan yn sydyn? i ble mae ei hewythr yn diflannu gyda’r nos? a ble mae hi’n wirioneddol yn perthyn? Dysgwch gyda hi sut i eni ŵyn, sut i siarad â phantherod, ble mae tylwyth teg Cymru yn cysgu, a phryd i droi eich hun yn lygoden. Rhannwch ei thaith – o dan y ddaear, uwchben y ddaear ac mewn dŵr dwfn – cyn ymuno â hi mewn brwydr yn erbyn gwrthwynebwyr tywyll, peryglus a rhy ddynol. Bydd cerddoriaeth gan Mari Mathias yn cyfoethogi’r perfformiad.
Yn addas i bob oed.
Mae tâl mynediad i’r safle yn cynnwys y gweithgaredd hwn. Nid oes angen archebu.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
SPECIAL EVENTS
Calan Awst – Perfformiad yr nosweth
Dydd Mercher 5 Awst, 7pm

Wrth i’r cynhaeaf dachrau, rydym yn dod yng hyd er mwyn dathlu. Fe fydd ‘na perfformiad a cerddoriaeth fyw gan MWSOG, wrth iddynt creu awyrgylch hydol, cyn fe fydd ‘na perfformwr tân, Danny yn rhoi sioe tân anhygoel, a cynnu’r dyn gwiail. Yn addas i plant 4 a drosodd, dewch a cadair, neu blanced a dillad addas am tu allan am yr perfformiad.
Prisiau: £22 yr oedolyn, £20 yr plenty, £70 yr teulu (2+2 neu 1+3). Mae archebu tocynnau yn hanfodol.
Cymhwysir Rhyddhad TAW’r Haf wrth dalu ar eitemau cymwys.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
Cerdded Chwilota am Fwyd
Dydd Sul 23 Awst, 5.30pm
Dewch i Gastell Henllys I ddarganfod byd cudd planhigion – rhai sy’n fwytadwy, rhai â rhinweddau meddyginiaethol, ac eraill yn beryglus.
Ymunwch â’n chwilotwr preswyl, Ben, am daith dywys hudolus drwy dri-deg erw o goetir. Dewch i archwilio byd cudd y planhigion sy’n aml yn mynd heb sylw; bydd rhai yn fwytadwy, rhai yn wenwynig, ac eraill yn gwbl ryfeddol.
Mae croeso i bawb sydd â diddordeb: mae arbenigwyr yn cael eu hannog i rannu eu gwybodaeth gyda eraill, ac mae croeso cynnes i ddechreuwyr gymryd eu camau cyntaf i mewn i’r byd hynod hwn.
£10 y pen.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad
Taith Gerdded Ystlumod Nos
Dydd Mawrth 25 Awst, 8pm

Wrth i’r cyfnos ddisgyn, ymunwch â ni am daith gerdded gyda’r nos unigryw o amgylch goedwig Castell Henllys, darganfyddwch y bywyd cudd sy’n dod i’r amlwg ar ôl iddi nosi a dysgwch pam mae’r safleoedd fel ein safle ni yn hafan mor bwysig i ystlumod. Gyda chymorth canfodydd ystlumod, byddwch yn gallu gwrando ar y creaduriaid nosol anodd eu gweld hyn wrth iddynt hedfan drwy’r cyfnos, gan fwydo ar bryfed a llywio awyr y nos. Dyma gyfle prin i ddod yn agos at rai o’n bywyd gwyllt mwyaf diddorol a chamddealles, dan arweiniad arbenigwr a fydd yn dod â’u byd cyfrinachol yn fyw.
£10 y pen
Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.
Mae’n ddrwg gennym, dim cŵn ar y digwyddiad hwn. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Cwrdd yn dderbynfa Castell Henllys . Gwisgwch ddillad cynnes, esgidiau cadarn a dewch â thortsh.
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad