Profwch yr Oes Haearn

Mae antur hynafol yn aros amdanoch!

Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad am 11.30am a 2.30pm.

Bore tawel Profwch yr Oes Haearn

Dydd Sul 10am-12 hanner dydd

Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

Iron Age Warrior at Castell Henllys Iron Age Village

Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)

Dydd Sadwrn 11 Mai a Dydd Sadwrn 1 Mehefin

Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg.

GWEITHGAREDDAU TEULUOL

Hwyl yn y Gaer

Dydd Mawrth 29 Mai a Dydd Iau 31 Mai o 11am ymlaen

Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau cynhanesyddol ymarferol. Holwch yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd i weld pa sesiynau fydd yn cael eu cynnal yn ystod eich ymweliad. Codir ffi ychwanegol yn ogystal â mynediad arferol.

Hud y Derwyddon

Dydd Mercher 30 Mai 11am a 2.30pm. Archebu’n Hanfodol.

Roedd Derwyddon Prydain o’r Oes Haearn yn wybodus, yn ddoeth ac yn gyfrinachol. Ymunwch â sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys cynnau tân, gwneud bara a phaentio wynebau. 6 oed ac yn hŷn. £7 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Archebwch Nawr

DIGWYDDIADAU ARBENNIG

Calan Mai – Beltane

Dydd Sadwrn 4 Mai, 10am-5pm

Dewch i ddathlu’r wŷl hynafol – Calan Mai. Rhowch cynnig ar greu coron helygen, a crefftwch ffon dymuniadau i taflu mewn i’r tân. Dewch i eistedd wrth y goelcerth i gael eich adloni gan chwedlau’r gorffennol cyn unio a’r seremoni (yn dibynnu ar y tywydd), i alltudio’r gaeaf.

£10 Oedolyn, £9 Consesiwn, £8 Plentyn, £32 Teulu (2+2). Pob gweithgaredd yn cael ei cynnwys yn prîs mynediad.

 

Gweithdy Brethyn Hynafol

Dydd Sul 12 Mai 11am – 4pm

Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich gyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion. £35 y person (cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn a’r holl ddeunyddiau). Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Ni ellir ad-dalu’r tocynnau.

Archebwch Nawr

 

Diwyrnod Addysg Gartref – Yr Oes Hearn

Dydd Mercher 5 Mehefin 10.30am-2.30pm

School group enter Castell Henllys Iron Age Village

Cyfle i deuluoedd a grwpiau addysg gatref i profi yr Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i deithio nôl mewn amser i’r amser am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi’i gynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi’i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.

£8 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu.

Archebwch Nawr

 

Diwyrnod Byw yn Cynaliadwy

Dydd Sadwrn 15 Mehefin , 10am-5pm

Man in Iron Age costume adding daub to a wattle wall made from willow

Cymerwch rhan ac ysbrydoliaeth wrth yr Wythnos Fawr Gwyrdd (Great Big Green Week) yma yng Nghastell Henllys. Darganfodwch sut y wnaeth ein cyndadau fyw ynghyd a natur a dysgwch beth allwch chi wneud i wella ein planed. Dewch yn llu i brofi sut mae adeiladu tai mewn steil o’r Oes Hearn, dysgwch sut i troilli edau o wlan ac profwch crefftau naturiol neu cynaliadwy.

Prîs mynediad arferol, fe fydd ‘na dâl ychwanegol am rhai o’r gweithgareddau.

Goresgyniad y Rhyfeiniaid

Dydd Sadwrn 29 and Dydd Sul 30 Mehefin, 10am-5pm

Yn crai o’i goruchafiaeth o Sir Fôn, mae milwyr Rhyfeiniaid o’r Leigo VIII Augusta MGV wedi dod i Gastell Henllys i gwbwlhau ei galwedigaeth o Gymru! Dewch i ddysgu fwy am y ffordd yr oedd y Rhyfeiniaid yn byw.

£11.50 Oedolyn, £10.50 Consesiwn, £9.50 Plentyn, £37.50 Teulu (2+2). Mae pob gweithgaredd wedi cael ei ychwanegu yn prîs yr mynediad.