Profwch yr Oes Haearn

Dydd Llun 30 Mawrth – Dydd Sul 1 Tachwedd

Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 1pm a 2pm – 3pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad, am 12pm.

Nodir bydd y pentrefwyr oes haearn yn cael cinio rhwng 1pm a 2pm.

 

Bore tawel Profwch yr Oes Haearn

Dydd Sul, 10am-12  hanner dydd

Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

A man in iron age costume standing in front of round houses

Taith Hunllef Henllys

Dydd Sadwrn 24 Hydref – Dydd Sul 1 Tachwedd

Wire ghost at Castell Henllys

Mae’r llen rhwng yr byd yma a’r nesa’, a rei fwya ‘wan ac mae’r ysbrydion a anghelfiod wedi dachrau dod allan! Cerddwch trwy’r coedwig, ac chwiliwch am yr ysbrydion a anghelfilod sydd wedi dangos ei hunan. Cymerwch llun ohonyn nhw neu ysgrifennwch lawr ei enwau i ennill wobr!

£2 y plentyn

 

Gwasgu Afalau yng Nghastell Henllys

Dydd Sadwrn 24 Hydref, 11am- 3pm

Close up of apple pieces in the top of an old fashioned wooden cider press

Gwasgu afalau gan ddefnyddio dulliau ein hynafiaid. Bydd ein Parcmyn ar y safle i helpu gyda’r gwasgu afalau traddodiadol. Rhowch gynnig arni eich hun – dewch ag afalau eich hun neu defnyddiwch rai o’n perllan dreftadaeth yn Sain Ffraid. Cofiwch ddod â photel os ydych am fynd â’ch sudd adref.

Digwyddiad am ddim, mae taliadau mynediad arferol i’r ganolfan yn berthnasol.

Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.

Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

 

Samhain/Noson Calan Gaeaf

Dydd Sadwrn 31 Hydref 11am-4pm

Wrth i’r oriau’r dydd lleihau ac ma’r gaeaf yn dachrau agosau, ymunwch a’r pentrefwyr wrth iddyn nhw dathlu Noson Calan Gaeaf. Mwynhewch gweithgareddau allwch ymuno mewn gyda a gwrando i chwedlau a strëon cyn dod at ein gilydd o gwmpas yr coelcerth am prynhawn o dathliadau ar 3pm.

£11 Oedolyn, £9 Plentyn, £35.50 Teulu (2+2 neu 1+3). Pob gweithgaredd yn cael ei cynnwys yn prîs mynediad. Ni yn argymell archebu tocyn.

Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.

Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg

Archebwch Nawr 

HEULDRO’R GAEAF

Dydd Llun 21 Rhagfyr 11am-3pm

Winter Solstice at Castell Henllys

Mae’r diwyrnod byrraf yma. Dathlwch drwy roi cynnig ar grefftau Nadoligaidd neu wrando ar straeon wrth ymyl y tân.

Wrth i’r dydd ddod i ben, byddwn yn cynnu’r coelcerth (yn dibynnu ar y tywydd) a bydd cyfle i gwrdd â’r Fari Lwyd!

£11 Oedolyn, £9 Plentyn, £35.50 Teulu (2+2 neu 1+3). Pob gweithgaredd yn cael ei cynnwys yn prîs mynediad. Ni yn argymell archebu tocyn.

Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.

Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg

Archebwch Nawr

DIGWYDDIADAU ARBENNIG

GWEITHDY BRETHYN HYNAFOL

Dydd Sadwrn 12 Medi 11am – 4pm

Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich gyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion. £45 y person (cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn a’r holl ddeunyddiau). Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Ni ellir ad-dalu’r tocynnau. Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg.

Archebwch Nawr

 

Gwerin wrth y Tân – Padraig Jack

Dydd Mawrth 27 Hydref, 7.30pm

Dewch I fwynhau noson o gerddoriaeth yn un o’n tai crwn, gyda’r cyfansoddwr caneuon gwerin Geltaidd o Iwerddon, Padraig Jack.

Mae Padraig Jack yn ennill enw da fel canwr a chyfansoddwr caneuon dwyieithog (Gwyddeleg/Saesneg), gyda’i gerddoriaeth a’i ganeuon wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn hanes, diwylliant, iaith a thraddodiad adrodd straeon Iwerddon.

Mae Padraig yn ysgrifennu ac yn canu caneuon ystyrlon ar y gitâr, a’r piano yn y Wyddeleg a’r Saesneg. Mae ei ddylanwadau’n amrywio o Enya, Emmylou Harris a’r Eagles i Van Morrison, Sinéad O’Connor a Richard Thompson. Mae’n gwerthfawrogi caneuon cryf, sydd â safbwynt unigryw.

£10 y pen. Rhaid archebu lle. Ni ellir ad-dalu tocynnau.

Bydd y perfformiad yn digwydd yn un o’n tai crwn Oes yr Haearn. Gwisgwch yn gynnes a dewch â tortsh. Bydd y perfformiad yn dechrau am 7.30pm, felly cyrhaeddwch yn gynnar er mwyn cael amser i gerdded i fyny i’r Pentref.

Archebwch Nawr

 

Samhain Syfrdanol

Dydd Iau 29 Hydref, 5.30pm

A fire eater against a dark background.

Mae’r haf yn dechrau dod i ben, ac mae’n bryd dathlu diwedd y cynhaeaf. Bydd Castell Henllys yn croesawu “Danny the fire performer” ar gyfer sioe dân estynedig, cyn cynnau ein Dyn Gwiail.

Llosgi’r Dyn Gwiail yw ein digwyddiad mwyaf boblogaid. Yn dilyn ei ohiriad ym mis Awst, ni’n cyflwyno ein sioe fwyaf trawiadol hyd yma! Mwynhewch berfformiad cwbl newydd wrth i’r dydd droi’n nos, pan fydd y Dyn Gwiail yn cael ei gynnau.

Bydd Blasus @Henllys yn darparu bwyd ar ôl y digwyddiad, gyda dewis o rolyn porc wedi’i dynnu mewn saws barbeciw neu rolyn jacffrwyth barbeciw. Archebwch eich bwyd wrth brynu eich tocynnau. Os oes gennych unrhyw alergeddau bwyd y mae angen i ni wybod amdanynt, anfonwch e-bost at enquiries@castellhenllys.com o leiaf 48 awr cyn y perfformiad.

Bydd Afon Mel yn ymuno â ni eto, gyda’u bar medd yn y Pentref yn cynnig amrywiaeth o fedd a diodydd di-alcohol.

£10 y pen (perfformiad yn unig) neu £16.50 y pen (perfformiad a bwyd). Gellir archebu tocynnau i ofalwyr drwy ffonio 01239 891319.

Bydd y perfformiad yn dechrau am 5.30pm, felly cyrhaeddwch yn gynnar er mwyn cael amser i gerdded i fyny i’r Pentref. Dewch â flanced neu gadair â chefn isel. Gwisgwch ddillad cynnes gwrth-ddŵr a dewch â tortsh. Argymhellir ar gyfer plant 4 oed a hŷn.

Rhaid archebu lle. Ni ellir ad-dalu tocynnau, a bydd y perfformiad yn mynd yn ei flaen mewn tywydd gwlyb.

Archebwch Nawr

 

Taith Nos Biofflworleuol 

Dydd Gwener 30 Hydref, 6.30pm

Ymunwch â ni yng Nghastell Henllys am daith gerdded gyda’n Parcmon wedi iddi nosi i ddarganfod biofflworoleuedd hudolus y coetiroedd yn yr hydref. Dyma adeg y flwyddyn pan fydd ffyngau a chennau’n dod yn fyw yn y nos gyda dangosfa fywiog o liw.

Cynhelir y digwyddiad yn Saesneg, ond gellir ei gyflwyno yn y Gymraeg hefyd os oes digon o alw.

Bydd tortshes UV a sbectol yn cael eu dapar

£15 y pen

Addas ar gyfer oedolion a phlant (8 oed+)

Archebu’n hanfodol

Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.

Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

Archebwch Nawr