Profwch yr Oes Haearn
Dydd Mercher 19 Chwefror to dydd Sul 2 Mawrth 10am – 3pm
Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 3pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad am 12 hanner dydd.
Bore Tawel Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sul 19 Chwefror and Dydd Sul 2 Mawrth 10am-12 hanner dydd
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.
GWEITHGAREDDAU TEULUOL
Diwyrnod Addysg Gartref – Ffocysu ar fwyd Oes Haearn
Dydd Gwener 14 Chwefror 10.00am-2.30pm
Cyfle i deuluoedd a grwpiau addysg gartref i brofi Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i dryfeilu nôl mewn amser i’r Oes Haearn am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi’i chynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi’i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.
Yn y sesiwn yma, cewch chi ffeindio allan am fywyd yn yr oes haearn, wrth ffocysu ar sut oedd bwyd yn cael ei baratoi a’i gadw.
£8 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu. Rhaid archebu.
DIGWYDDIADAU ARBENNIG
Hanesion Awyr Nos Sir Benfro
Dydd Iau 27 Chwefror, 7pm – 8:30pm
Dathlwch lonyddwch awyr nos Sir Benfro ar gyfer Wythnos Awyr Dywyllwch Cymru gyda noson hudolus o dan y sêr yng Nghastell Henllys, Yng nghwmni Mari Mathias (storïwr a cherddor). Yma i ail-ddychmygu’r chwedlau lleol, duwdodau, y Mabinogi a’n cysylltiad â’r tir a’r awyr. Wrth i’r haul fachlud, a’r lleuad yn disgleirio dros y tir, bydd pob chwedl yn datblygu o dan awyr dywyll y nos; I ddatgelu doethineb ein cyndeidiau a’u perthynas â’r ddaear a’r bydysawd.
Cerddoriaeth a Hanesion o amgylch tân agored tu mewn i dŷ crwn Oes Haearn.
Diodydd poeth yn cynnwys.
Yn addas ar gyfer oedolion a phlant hŷn 8+ yn unig.
Ni ellir ad-dalu tocynnau, mae’n ddrwg gennym ni fydd unrhyw gŵn yn ganiataol ar gyfer y digwyddiad hwn