Troi’r llanw ar barcio ar y traeth yn Nhraeth Mawr

Mae cyfnod o newid ar y gorwel yn Nhraeth Mawr ger Trefdraeth. Rydyn ni’n troi’r llanw ar draddodiad oherwydd rydyn ni eisiau traeth gwell, i bawb.

Mae degawdau o barcio ar y traeth wedi niweidio’r amgylchedd naturiol ac mae pryderon am ddiogelwch y cyhoedd yn parhau i gynyddu.

Felly, fel Awdurdod Parc Cenedlaethol, rydyn ni wedi prynu’r tir ar draeth Traeth Mawr sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio i barcio ar y traeth, ac rydyn ni’n bwriadu rheoli’r cerbydau sy’n cael mynediad i’r traeth i atal rhagor o ddifrod i gynefin y traeth.

Rydyn ni eisiau brolio am y fioamrywiaeth, ac rydyn ni eisiau ardal heb geir, fel na fydd angen i ymwelwyr â’r traeth boeni am eu diogelwch.

Rydyn ni’n gofyn i chi ddefnyddio’r maes parcio dynodedig yn lle parcio ar y traeth.

Cofiwch y gallwch bob amser barcio am ddim am 30 munud yn ystod y cyfnod codi tâl (15 Mawrth–7 Tachwedd) a gallwch dalu i aros am gyfnodau hirach gydag arian parod neu ar-lein drwy PayByPhone. Ewch i’n tudalen parcio am fanylion pellach.

Rydyn ni eisiau sicrhau profiad diogel i bawb ar y traeth, felly rydyn ni’n dyblu nifer y lleoedd parcio i bobl anabl o dri i chwech.

Mae gennym hefyd gadair olwyn ar y traeth ar gael i’w llogi gan Glwb Syrffio Traeth Mawr (o ganol mis Mehefin ymlaen) ac rydyn ni’n cyfrannu at redeg bws arfordirol Roced Poppit (a fydd yn gweithredu amserlen yr haf rhwng 30 Mai a 30 Medi). Mae hyn yn ffordd arall i bobl deithio i’r traeth. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau (yn agor mewn ffenestr newydd).

Bydd yn bosibl i lansio cychod dŵr bach drwy ddefnyddio trelars/trolïau a yrrir â llaw (llai na 5 troedfedd o led) ond bydd angen i’r rhai sydd angen cyfleusterau lansio drwy ddefnyddio gerbyd gyda threlar fynd i leoliad arall, fel Parrog Trefdraeth (rhwng 2.5 a 3 awr bob ochr i’r llanw uchel), Pwllgwaelod, Cwm Abergwaun a Wdig.

Rydyn ni’n gweithredu oherwydd ei fod yn bwysig i ni. Mae cadwraeth y dirwedd warchodedig hon, cysylltiad pobl â hi, a’r effaith ar ein cymunedau lleol yn bwysig i ni.

Os byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, gallwn wneud Traeth Mawr yn draeth gwell i bobl ac i fywyd gwyllt.

Cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y newyddion diweddaraf.