‘Rheol 28 Diwrnod’, Safleoedd Carafanau a Gwersylla Ardystiedig

Canllaw byr sy’n dweud beth a ganiateir o dan gyfraith cynllunio

Paratowyd y daflen hon fel canllaw syml i’ch helpu, ac ni ddylid ei hystyried fel dehongliad llawn o’r gyfraith.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni:

E-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk
Rhif ffôn: 01646 624800

Rheoli Datblygu
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

‘Rheol 28 Diwrnod’

Trosolwg

  • Mae’r ‘Rheol 28 Diwrnod’ yn caniatáu i berchnogion tir ddefnyddio tir fel maes gwersylla heb gael caniatâd cynllunio ffurfiol am 28 diwrnod yn unig mewn blwyddyn galendr
  • Nodwch fod cyfyngiadau wrth ddefnyddio tir yn y modd hwn.

Cyfyngiadau o ran Amserlen

  • Ni chaniateir defnyddio’r tir am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr
  • Nid oes raid i’r 28 diwrnod fod yn olynol
  • Rydym yn argymell eich bod yn cofnodi’r union ddyddiadau pan fo’r tir yn cael ei ddefnyddio
  • Nid yw’r 28 diwrnod fesul unigolyn neu deulu; yn hytrach cyfanswm nifer y diwrnodau y gallwch ddefnyddio’r tir mewn blwyddyn galendr
  • Mae unrhyw ddiwrnod pan fo strwythur dros dro (e.e. toiled cludadwy) yn dal ar y safle’n cyfri fel un o’r 28 diwrnod a ganiateir.

Cyfyngiadau o ran Math o Dir

  • Ni ddylai’r tir fod yn rhan o unrhyw dir sy’n gysylltiedig ag adeilad presennol, yn cynnwysgerddi tŷ, par iau ceir, adeiladau amaethyddol ac adeiladau rhestredig
  • Ni chaniateir defnyddio tir sydd wedi’i gyfuno â safle carafanau presennol fel safle 28 diwrnod.

Beth a ganiateir ar safle ’28 Diwrnod’

  • Pebyll a phebyll trelar
  • Glampio heb safle caled
  • Strwythurau y gellir eu symud ar olwynion neu sgid ar ôl defnyddio’r safle, yn cynnwys toiledau cludadwy
  • Cerbydau a ddefnyddir yn unig ar gyfer cludo i’r safle (ceir, faniau a threlars)
  • Tir sydd dros bum erw – caniateir hyd at dair carafán ar y tro am hyd at uchafswm o ddwy noson
  • Tir sydd o dan bum erw – caniateir un garafán yn unig am hyd at uchafswm o ddwy noson.

Beth NA chaniateir ar safle ’28 Diwrnod’

  • Glampio ar safle caled – yn cynnwys ond heb i gyfyngu i: iyrtau, tipis, podiau a phebyll cloch
  • Unrhyw strwythurau parhaol yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i: adeiladau amaethyddol, blociau toiledau, siopau, ystafelloedd golchi
  • Cartrefi gwyliau symudol, Cerbydau Hamdden (RVs)
  • Cyfleusterau dros dro ar olwynion neu sgid y mae angen trwyddedau ar wahân ar eu cyfer, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i: ‘faniau byrgyr’
  • Unrhyw bwyntiau cysylltu trydan a/neu wasanaethau cyfleustodau sylweddol fel sinciau unigol sy’n annodweddiadol o gaeauamaethyddol.

Safleoedd Carafanau Ardystiedig Eithriedig

Trosolwg

  • Mae tystysgrif carafanau symudol neu wersylla eithriedig yn caniatáu i sefydliad hamdden wersylla neu garafanio ar dir heb drwydded safle neu’r angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Cyfyngiadau o ran Carafanau neu Gartrefi Modur

  • Gellir cael hyd at bum carafán a/neu gartrefi modur ar unrhyw adeg ar y tir.

Cyfyngiadau o ran Pebyll

  • Fel arfer, bydd safleoedd ardystiedig hefyd yn cynnwys lle ar gyfer hyd at 10 o bebyll yn dibynnu os oes lle ar gael
  • Caniateir mwy o bebyll os rhoddir caniatâd gan y sefydliad sy’n cyflwyno’r dystysg.

Cyfyngiadau o ran Defnydd

  • Ni chaniateir defnyddio’r safle ar hyd y flwyddyn
  • Rhaid adnewyddu’r drwydded safle bob blwyddyn
  • Pan ddaw’r dystysgrif i ben rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r tir fel maes carafanau
  • Rhaid symud bob carafán o’r safle cyn gynted â phosibl.

Ralïau Sefydliadau Eithriedig

  • Gall sefydliadau eithriedig drefnu bod eu haelodau’n ymgynnull ar safleoedd am hyd at bum diwrnod
  • Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’n rhoi gwybod i’r Awdurdod pryd a ble mae hyn yn digwydd ar ddechrau’r prif dymor.

Further Information

I gael mwy o wybodaeth am Safleoedd Carafanau Ardystiedig Eithriedig, gweler gwefan Gov.UK.

Deddfwriaeth

Cyngor cynllunio