Adroddiad yr Arolygydd

Cynllun Datblygu Lleol 2

Adroddiad yr Arolygydd

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod fonitro ac adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae Cynlluniau Datblygu Lleol cyfredol yn rhan hanfodol o’r system gynllunio sy’n cael ei harwain gan gynllun o dan bolisi cenedlaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn paratoi Adroddiad Adolygu ar y CDLl a Fabwysiadir ar hyn o bryd, a chymeradwyo Cytundeb Darparu gyda Llywodraeth Cymru, mae’r Awdurdod wedi dechrau’r gwaith ar ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd Cyntaf.
Unwaith iddo gael ei fabwysiadu, bydd y CDLl newydd yn cymryd lle’r CDLl a fabwysiadir ar hyn o bryd (sydd ar waith tan 2021) a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio twf yn y dyfodol ac i wneud penderfyniadau cynllunio.

Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd

Ar 13 Mai 2020 derbyniodd yr Awdurdod Adroddiad yr Arolygydd ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Canfu’r Arolygydd penodedig fod y CDLl Newydd, yn amodol ar y newidiadau a argymhellwyd, yn gadarn.

Y dogfennau perthnasol yw:
Llythyr Eglurhaol i Adroddiad yr Arolygydd
Adroddiad yr Arolygydd ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Atodiad Adroddiad yr Arolygydd – Rhestr o Newidiadau Materion sy’n Codi (NMCau)

Mae Adroddiad yr Arolygydd yn rhwymo’r Awdurdod a bydd y newidiadau a argymhellir yn cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd.

Cynlluniau Datblygu Lleol  2005 (fel y’u diwygiwyd), bydd yr Awdurdod yn gwneud y trefniadau priodol i fabwysiadu’r Cynllun yng nghyfarfod cyntaf posibl yr Awdurdod Parc Cenedlaethol (Rheoliad 25).

Gellir gweld copïau cyfeiriol o Adroddiad yr Arolygydd (pan fyddant ar agor i’r cyhoedd eto) yn naill ai:
• Prif Swyddfa’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY. Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 9am tan 5pm, ac ar ddydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm.
• Neu yng Nghanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6NW, yn ystod oriau agor arferol.

Os oes angen  rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â chyhoeddi a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, neu os ydych yn cael trafferth gweld y ddogfennaeth yn electronig, e-bostiwch devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800 a gofynnwch am gael siarad â rhywun sy’n ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol.