Mae ein cynllun rheoli tir peilot newydd, Cysylltu’r Arfordir, yn cynnig cyllid ar gyfer creu a chynnal cynefinoedd bywyd gwyllt ar hyd arfordir cyfoethog ac amrywiol Sir Benfro.
Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i weld a yw unrhyw ran o’ch tir o fewn ein parth Cysylltu’r Arfordir gwyrdd
Beth ydyn ni’n ei gynnig?
- Cyllid cyfalaf ar gyfer costau cychwynnol
- Taliadau rheoli blynyddol sy’n para rhwng pump a deng mlynedd
- Grant ‘prosiectau arbennig’ sy’n golygu y gallwn deilwra’r cynllun ar eich cyfer chi a’ch tir
- Cyngor, arweiniad a chefnogaeth barhaus
- Cynllun hyblyg a syml sydd wedi’i gynllunio i fod yn addas i chi.
Beth yw’r dewisiadau?
Mae’r enghreifftiau’n cynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gyflawn):
- Creu coridorau arfordirol
- Creu neu reoli glaswelltiroedd sy’n gyforiog o flodau
- Hadu gwyndynnydd llysieuol
- Ymylon a chorneli – opsiynau i wella bioamrywiaeth ar ymylon caeau a chorneli (gan gynnwys opsiynau âr/blodau gwyllt/adar)
- Coed, llwyni a ffiniau traddodiadol
- Syniadau eraill? Mae modd trafod prosiectau pwrpasol â’n tîm.
Cofrestrwch eich diddordeb
Ariennir cynllun Cysylltu’r Arfordir gan gronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy (SLSP), rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws wyth o Dirweddau Dynodedig Cymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur, cyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.