Telerau ac Amodau Tocyn Blwyddyn

  1. Mae tocyn blwyddyn yn caniatáu i’r personau a enwir arno i gael mynediad i Gastell a Melin Heli Caeriw ac i Bentref Oes Haearn Castell Henllys hyd at ac yn cynnwys y dyddiad terfynol a ddangosir ar y tocyn yn ystod yr oriau agor a hysbysebir.
  2. Bydd tocyn blwyddyn yn ddilys am 12 mis o ddyddiad ei gyhoeddi.
  3. Nid yw tocyn blwyddyn yn cynnwys mynediad i ddigwyddiadau â thocyn y telir amdanynt, digwyddiadau gyda’r nos neu ddigwyddiadau a gynhelir ar y safleoedd gan drydydd parti. Gweler hysbyseb y digwyddiad penodol am fwy o fanylion.
  4. Mae ein tocyn blwyddyn teulu yn ddilys ar gyfer dau oedolyn (17-64 oed) a dau blentyn (4-16 oed).
  5. Mae rhaid i bob plentyn dan 14 mlwydd oed gael eu hebrwng gan oedolyn cyfrifol bob amser.
  6. Mae tocyn blwyddyn consesiynol yn ddilys ar gyfer pobl 65 oed a throsodd ac ar gyfer myfyrwyr sy’n berchen ar gerdyn myfyriwr dilys.
  7. Bydd deiliaid tocyn blwyddyn ond yn derbyn mynediad trwy gyflwyno tocyn blwyddyn dilys (ni dderbynnir copïau digidol neu ffotograffau).
  8. Gellir cyhoeddi tocyn blwyddyn newydd os collwch eich un chi. Codir tâl gweinyddol bychan am y gwasanaeth hwn.
  9. Ni ellir trosglwyddo unrhyw docynnau blwyddyn.
  10. Efallai y gofynnir ichi gyflwyno dogfen adnabod pan fyddwch yn defnyddio eich tocyn blwyddyn.
  11. Bydd unrhyw gais i ddefnyddio’r tocyn blwyddyn gan berson heblaw’r deiliad a enwir, waeth beth fo’r rheswm, yn golygu na chewch fynediad i’r safle.
  12. Ni ellir rhoi ad-daliad am docynnau blwyddyn.
  13. Bydd ad-daliad am docynnau dydd yn erbyn cost prynu tocynnau blwyddyn yn ddilys ar ddiwrnod eu prynu’n unig a byddant ond o werth cyfwerth.
  14. Cofiwch wirio ein horiau agor cyn ymweld â ni.
  15. Rydym yn cadw’r hawl i newid ein horiau / dyddiadau agor a chau.
  16. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am wybodaeth wallus ar wefannau allanol, felly cofiwch wirio ar ein gwefan ni bob amser.
  17. Wrth brynu tocyn blwyddyn, mae deiliad y tocyn blwyddyn yn cydnabod bod prosesu eu data personol yn angenrheidiol ar gyfer oes ein cytundeb gyda hwy. Am fanylion llawn sut a pham y byddwn yn prosesu’r data yma, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  18. Os yw tocyn blwyddyn yn cael ei brynu ar gyfer unigolyn dan 16 mlwydd oed, bydd y rhiant / gwarcheidwad sy’n prynu’r tocyn yn rhoi caniatâd inni brosesu data’r plentyn.